Cofnodion:
Gofynnwyd i'r aelodau ystyried
sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i amrywio Trwydded
Mangre a gymeradwywyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Enw'r fangre |
Premier Stores |
Cyfeiriad y fangre |
Stryd Fawr, Cwmgwrach,
SA115TA |
Enw'r ymgeisydd |
Rebecca James |
Cyfeiriad yr ymgeisydd |
Tŷ Siloh, Heol
Wenallt, Cwmgwrach |
Enw'r Goruchwyliwr
Mangre Dynodedig |
Andrea Dawn Davies |
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r cais i amrywio Trwydded Mangre –
Premier
Stores, Stryd Fawr, Cwmgwrach, SA11 5TA a wnaed gan Rebecca James, Tŷ
Siloh, Heol Wenallt, Cwmgwrach, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac
yn amodol ar yr amodau canlynol;
1.
Estyn y fangre i gynnwys lle i werthu ar y safle ac oddi
yno a newid cynllun y fangre i gynnwys caffi bistro yn y cefn.
2.
Cyflenwi alcohol yn y fangre ac oddi arni:
Dydd Llun i
ddydd Sul: 06:00 – 23:30
Mae'r
ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r caffi/bistro
yn unig rhwng 11:00 a 23:30
3.
Oriau agor y fangre:
Dydd Llun i
ddydd Sul: 06:00 - 23:30
Mae'r
ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r
caffi/bistro yn unig rhwng 11:00 a 23:30
Amodau
Trosedd ac Anhrefn:
4.
Gosodir teledu cylch cyfyng fel y gellir monitro
ardaloedd trwyddedadwy gan gynnwys mynedfeydd, allanfeydd a chefn y fangre.
Cedwir y ffilm am o leiaf 28 niwrnod a bydd ar gael i'w harchwilio gan
swyddogion awdurdodedig.
5.
Ni chaniateir mynediad ar unrhyw adeg i unrhyw un sy'n
cario gwydrau agored neu wydrau a seliwyd.
6.
Ni chaniateir mynd ag alcohol sydd wedi'i brynu yn y siop
i mewn i'r bistro dan unrhyw amgylchiadau. Caiff pob diod ei gweini mewn gwydr,
ni fydd caniau na photeli ar gael.
7.
Bydd llyfr cofnod achosion yn cael ei gadw yn y fangre ar
gyfer archwiliadau gan swyddogion awdurdodedig.
8.
Ni chaniateir mynediad ac ni werthir alcohol i unrhyw
berson sy'n feddw ac/neu sy'n ymddwyn yn afreolus ac ni chaniateir iddo aros yn
y fangre.
Diogelwch y Cyhoedd:
9.
Bydd cofnod neu system recordio yn cael ei gadw yn y
fangre ac ynddo nodir manylion yr archwiliadau a wnaed; y rheini y mae'n
ofynnol eu gwneud yn statud a gwybodaeth a gasglwyd i gydymffurfio ag unrhyw
amod sy'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre
sy'n gofyn am gofnodi gwybodaeth o'r fath. Bydd y llyfr cofnodion ar gael i'w
archwilio pan fydd yn ofynnol gan bersonau a awdurdodwyd gan Ddeddf Trwyddedu
2003 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig.
10. Darperir mynediad digonol
ar gyfer cerbydau brys a phersonol.
11. Bydd pob rhan o'r fangre
a'r holl osodiadau a chyfarpar ynddi, gan gynnwys ffasnyddion a hysbysiadau
drysau a'r seddi, goleuadau, system wresogi, system drydanol, system awyru,
cyfleusterau iechydol, cyfleusterau golchi a gosodiadau eraill yn cael eu
cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel bob amser.
12. Dylid archwilio'r fangre
cyn iddi agor i'r cyhoedd i sicrhau nad oes unrhyw risgiau i gwsmeriaid a bod
yr holl ragofalon diogelwch ar waith.
13. Hyfforddiant priodol
ynghylch rhagofalon a gweithdrefnau brys a chyffredinol.
14. Sicrhewch fod yr holl
staff yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau cymdeithasol a chyfreithiol a'u
cyfrifoldebau o ran gwerthu alcohol.
15. Bydd dŵr yfed ar
gael am ddim bob amser yn ardal y bistro pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd.
16. Rhaid clirio'r holl
boteli, gwydrau a sbwriel o ardaloedd cyhoeddus yn rheolaidd ac yn aml.
17. Bydd y system drydanol yn
y fangre yn cael ei harchwilio a'i phrofi gan berson cymwys. Bydd person cymwys
yn drydanwr â chymwysterau addas sydd wedi'i gofrestru gyda'r ECA neu NICEIC.
18. Rhaid cadw'r holl
dystysgrifau diogelwch ac adroddiadau arolygu ar y safle ac ar gael i'w
harchwilio gan swyddog cyrff statudol perthnasol.
19. Rhaid i'r mesurau
diogelwch tân a ddarperir yn y fangre gael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a
bydd eu digonolrwydd yn cael ei bennu'n rheolaidd, trwy gynnal asesiad risg tân
fel sy'n ofynnol gan ac yn unol â'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch
Tân).
Atal Niwsans Cyhoeddus:
20. Bydd hysbysiadau clir a
darllenadwy amlwg yn cael eu harddangos wrth bob allanfa yn gofyn i'r cyhoedd
barchu anghenion y preswylwyr a gadael y fangre'n dawel.
21. Bydd deunyddiau sy'n
angenrheidiol ar gyfer gweithredu'r busnes yn cael eu dosbarthu ar yr adegau
hynny neu mewn modd sy'n atal niwsans ac aflonyddwch i breswylwyr.
22. Rhaid i'r trwyddedai
sicrhau bod staff sy'n cyrraedd yn gynnar yn y bore neu'n gadael yn hwyr yn y
nos, pan fydd oriau masnachu'r busnes wedi dod i ben, yn ymddwyn yn y fath fodd
eu bod yn osgoi achosi aflonyddwch i breswylwyr sydd gerllaw.
23. Gofynnir i gwsmeriaid
beidio â sefyll o gwmpas yn siarad yn y stryd y tu allan i'r fangre a gofynnir
iddynt adael y cyffiniau'n gyflym ac yn dawel.
24. Mae gweithredwr tacsi
penodol wedi'i enwebu at ddefnydd staff a chwsmeriaid. Mae rhif ffôn y cwmni yn
cael ei hysbysebu i gwsmeriaid. Mae'r gweithredwr a'r holl yrwyr yn ymwybodol y
dylent gyrraedd a gadael y fangre mor dawel â phosibl, ni ddylent seinio cyrn
fel arwydd eu bod wedi cyrraedd neu adael peiriannau'n rhedeg yn ddiangen.
25. Sicrhewch fod staff yn
patrolio'r fangre yn rheolaidd y tu mewn a'r tu allan i oruchwylio ymddygiad
priodol cwsmeriaid.
26. Rheoli faint o adloniant
rheoledig sy'n digwydd yn y fangre.
27. Bydd yr holl ddrysau a
ffenestri allanol ym mhob ystafell yn cael eu cadw ar gau pan fydd y digwyddiadau
sy'n cynnwys cerddoriaeth neu leferydd neu adloniant arall sy'n debygol o godi
lefel y sŵn, ac eithrio mynediad i'r fangre ac oddi yno.
28. Darperir ardal allanol at
ddefnydd cwsmeriaid y cyfleusterau er mwyn gwaredu a chasglu sbwriel.
29. Rhaid gweini diodydd mewn
cwpanau plastig neu gwpanau gwydr gwydn pan fydd diodydd yn cael eu hyfed mewn
ardaloedd awyr agored.
Amddiffyn plant rhag niwed:
30. Rhaid gweithredu polisi
her 25, ac mae'n rhaid gofyn i unigolion sy'n ymddangos eu bod dan 25 oed ac
sy'n ceisio prynu alcohol gael am gerdyn adnabod.Yr unig fath o gerdyn adnabod
a dderbynnir yw cardiau adnabod PASS, pasbort neu drwydded yrru llun. Gwydrau
plastig neu boteli plastig yn unig a ganiateir mewn ardaloedd chwarae i blant,
gerddi cwrw ac ardaloedd hamdden, neu mewn unrhyw ardal lle mae'n ofynnol i
gwsmeriaid dynnu eu hesgidiau.
31. Bydd cofrestr
gwrthodiadau yn cael ei chadw yn y fangre i'w harchwilio gan swyddogion
awdurdodedig.