Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 12fed Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting via Teams or Council Chamber, Port Talbot

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd A J Richards bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

3.

Cais am adolygiad o drwydded safle pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Penderfynodd yr Is-bwyllgor, wrth benderfynu ar yr adolygiad:

  1. y dylid dileu enw'r goruchwyliwr mangre dynodedig presennol oddi ar y drwydded mangre; ac
  2. addasu amodau'r drwydded mangre, yn unol ag a52(4)(a) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gydag amodau ychwanegol i gefnogi'r amcanion trwyddedu. 

 

Amod[au]

I'w dileu

  1. Dileu'r amod canlynol o'r drwydded mangre, sef:

a.    Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth bod cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae.

 

I'w hatodi

  1. Ychwanegu'r amodau canlynol i'r drwydded mangre, sef:

a.    Ni chaniateir mynediad i'r fangre ar unrhyw adeg i gwsmeriaid sy'n cario poteli neu wydrau agored neu rai a seliwyd.

 

b.    Ni chaniateir i gwsmeriaid fynd â photeli na gwydrau agored na rhai a seliwyd y tu allan i'r fangre.

 

c.    Ni chaniateir mynediad neu fynediad am yr ail dro i'r fangre 45 munud cyn yr oriau olaf a ganiateir.

 

a.    Bydd polisi ‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r modd gwirio fod ar ffurf dull adnabod sy’n cynnwys: llun o’r person; ei ddyddiad geni; a marc holograffig, a dylid ei gyfyngu i;

                                      i.        gynlluniau prawf oedran achrededig PASS. e.e. Cerdyn y Dinesydd;

                                    ii.        Proof GB;

                                   iii.        Cerdyn ffotograff, trwydded yrru neu basbort.

 

b.    Rhaid arddangos arwyddion mewn man amlwg yn y fangre, gan ddilyn y polisi ‘Her 25’;

 

c.    Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o dri deg un (31) diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais.

 

Rhaid i'r system gwmpasu'r ardaloedd canlynol:

                                      i.        Perimedr allanol y fangre;

                                    ii.        Mynedfeydd ac allanfeydd y fangre; a

                                   iii.        Ardaloedd cyhoeddus mewnol y fangre.

 

ch.  Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Rhaid bod yr aelod o staff yn gallu darparu copïau o'r recordiadau CCTV i'r Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y Cyngor (gan gynnwys fideo, lluniau a/neu ddata) mewn fformat y gellir ei recordio naill ai i USB a/neu gyfleuster tystiolaeth ar-lein a/neu ddisg.

 

d.    Bydd yr holl recordiadau CCTV ar gael i'w gwylio yn syth ar gais gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig o'r Cyngor, a rhaid darparu copi o fewn 120 awr neu 5 niwrnod yn dilyn cais cyfreithlon.

 

dd. Rhaid i bolisi gwrth-gyffuriau y cytunwyd arno gyda'r Heddlu gael ei lunio a'i roi ar waith ar bob adeg wrth i'r fangre fod ar agor i'r cyhoedd. Bydd deilaid trwydded y fangre a/neu berson enwebedig yn gosod ac yn cynnal coffr cyffuriau diogel, yn unol â gofynion yr Heddlu. Darperir ar gyfer chwiliadau a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Eitemau brys

Any urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

5.

Mynediad i Gyfarfod - Gwahardd y Cyhoedd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o’r Ddeddf. uchod ac yn unol â rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiad) 2005.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Yn unol ag Adran 100B (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff eithriedig 13 a grybwyllir isod o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Dan holl amgylchiadau'r achos, yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau (Gwrandawiad) 2005 Ddeddf Trwyddedu 2003, ystyrir bod budd y cyhoedd ynghylch cynnal yr eithriad yn drech i fudd y cyhoedd ynghlych datgelu'r wybodaeth.

6.

Atodiad 8 - Esemptiad o dan baragraff 13 Rhan 4 o Atodlen 12A 100BA(2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Atodiad 8 o'r adroddiad hwn yn unig: Yn unol ag Adran 100B (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff eithriedig 13 a grybwyllir isod o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Dan holl amgylchiadau'r achos, yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau (Gwrandawiad) 2005 Ddeddf Trwyddedu 2003, ystyrir bod budd y cyhoedd ynghylch cynnal yr eithriad yn drech i fudd y cyhoedd ynghlych datgelu'r wybodaeth.