Agenda item

Cais am adolygiad o drwydded safle

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Penderfynodd yr Is-bwyllgor, wrth benderfynu ar yr adolygiad:

  1. y dylid dileu enw'r goruchwyliwr mangre dynodedig presennol oddi ar y drwydded mangre; ac
  2. addasu amodau'r drwydded mangre, yn unol ag a52(4)(a) o Ddeddf Trwyddedu 2003, gydag amodau ychwanegol i gefnogi'r amcanion trwyddedu. 

 

Amod[au]

I'w dileu

  1. Dileu'r amod canlynol o'r drwydded mangre, sef:

a.    Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth bod cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae.

 

I'w hatodi

  1. Ychwanegu'r amodau canlynol i'r drwydded mangre, sef:

a.    Ni chaniateir mynediad i'r fangre ar unrhyw adeg i gwsmeriaid sy'n cario poteli neu wydrau agored neu rai a seliwyd.

 

b.    Ni chaniateir i gwsmeriaid fynd â photeli na gwydrau agored na rhai a seliwyd y tu allan i'r fangre.

 

c.    Ni chaniateir mynediad neu fynediad am yr ail dro i'r fangre 45 munud cyn yr oriau olaf a ganiateir.

 

a.    Bydd polisi ‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r modd gwirio fod ar ffurf dull adnabod sy’n cynnwys: llun o’r person; ei ddyddiad geni; a marc holograffig, a dylid ei gyfyngu i;

                                      i.        gynlluniau prawf oedran achrededig PASS. e.e. Cerdyn y Dinesydd;

                                    ii.        Proof GB;

                                   iii.        Cerdyn ffotograff, trwydded yrru neu basbort.

 

b.    Rhaid arddangos arwyddion mewn man amlwg yn y fangre, gan ddilyn y polisi ‘Her 25’;

 

c.    Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o dri deg un (31) diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais.

 

Rhaid i'r system gwmpasu'r ardaloedd canlynol:

                                      i.        Perimedr allanol y fangre;

                                    ii.        Mynedfeydd ac allanfeydd y fangre; a

                                   iii.        Ardaloedd cyhoeddus mewnol y fangre.

 

ch.  Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Rhaid bod yr aelod o staff yn gallu darparu copïau o'r recordiadau CCTV i'r Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y Cyngor (gan gynnwys fideo, lluniau a/neu ddata) mewn fformat y gellir ei recordio naill ai i USB a/neu gyfleuster tystiolaeth ar-lein a/neu ddisg.

 

d.    Bydd yr holl recordiadau CCTV ar gael i'w gwylio yn syth ar gais gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig o'r Cyngor, a rhaid darparu copi o fewn 120 awr neu 5 niwrnod yn dilyn cais cyfreithlon.

 

dd. Rhaid i bolisi gwrth-gyffuriau y cytunwyd arno gyda'r Heddlu gael ei lunio a'i roi ar waith ar bob adeg wrth i'r fangre fod ar agor i'r cyhoedd. Bydd deilaid trwydded y fangre a/neu berson enwebedig yn gosod ac yn cynnal coffr cyffuriau diogel, yn unol â gofynion yr Heddlu. Darperir ar gyfer chwiliadau a phrofion cyffuriau ar hap ar gyfer cwsmeriaid, yn unol â gofynion yr Heddlu.

 

e.    Pryd bynnag y darperir adloniant wedi'i reoleiddio yn y fangre, bydd o leiaf 2  oruchwyliwr drws sydd wedi'u cofrestru ag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) ar ddyletswydd am 30 munud cyn amser dechrau'r adloniant ac am 30 munud ar ôl amser gorffen yr adliniant wedi'i reoleiddio.

 

f.     Ar bob adeg arall, bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr angen sy'n ofynnol gan yr asesiad risg. Bydd dogfen ysgrifenedig yn cael ei chadw a'i darparu i'r Heddlu a/neu swyddogion awdurdodedig y cyngor, ar gais.

 

ff.    Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch, os caiff ei defnyddio, yn cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn cynnwys y canlynol: enw; cyfeiriad; a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws a'r dyddiad(au) a'r amser(au) y maent yn gweithredu. Rhaid i’r gofrestr gael ei chadw i'w harchwilio gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor.

 

g.    Bydd y deiliad y drwydded mangre a/neu berson enwebedig yn sicrhau bod yr holl oruchwylwyr drysau sydd wedi'u cofrestru â'r SIA yn gwisgo dillad amlwg sy'n dangos pwy ydyn nhw. Bydd y goruchwylwyr drysau sydd wedi'u cofrestru â'r SIA yn arddangos eu trwyddedi SIA mewn rhwymyn braich adlewyrchol pan fyddant ar ddyletswydd.

 

ng. Os darperir adloniant wedi'i reoleiddio, bydd deiliad y drwydded mangre'n gweithredu ac yn cynnal system cyfrif addas i fonitro nifer y bobl sy'n mynd i mewn ac allan o'r fangre i sicrhau y cedwir o fewn y terfyn uchafswm.

 

h.    Bydd y fangre'n cynnal cofnod o bob digwyddiad sy'n digwydd yn y fangre neu yng nghyffiniau'r fangre.  Bydd y cofnod hwn yn cynnwys manylion unrhyw: anrhefn; ymosodiadau; lladrad / dwyn eiddo; meddu ar sylweddau anghyfreithlon neu eu cyflenwi; a phobl y gofynnwyd iddynt adael y fangre neu y gwrthodwyd mynediad iddynt. Bydd y cofnod yn cofnodi'r canlynol: dyddiad ac amser y digwyddiad; y personél sy'n rhan o'r digwyddiad ac yn adrodd amdano; camau gweithredu a gymerwyd; a, lle y bo'n briodol, canlyniad y digwyddiad. Rhaid i hwn fod ar gael i'w archwilio gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y Cyngor ar bob adeg rhesymol.

 

i.      Rhaid i bob cofnod yn y cofnod digwyddiadau gael ei nodi cyn i staff y fangre, gan gynnwys staff drws SIA, adael y fangre a rhaid i'r cofnod digwyddiadau aros yn y fangre ar bob adeg. Ni ddylid symud y cofnod digwyddiadau o'r fangre ar unrhyw adeg heblaw am gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y Cyngor.

 

j.      Cedwir pob ffenestr a drws allanol ar gau ar ôl 21:00, neu ar unrhyw adeg pan gynhelir adloniant wedi'i reoleiddio, ac eithrio caniatáu pobl i mewn ac allan ar unwaith.

 

l.      Bydd deilaid y drwydded mangre a/neu berson enwebedig yn cydweithredu gyda'r Heddlu wrth ymgymryd ag unrhyw weithrediad gostwng neu ganfod troseddu yn y fangre neu sy'n gysylltiedig â'r fangre. Er enghraifft, y defnydd o gyffuriau, cŵn canfod cyffuriau, peiriant canfod cyffuriau etc.

 

ll.    Ni fydd unrhyw berson dan 18 oed yn cael mynd i mewn i'r eiddo pan fo adloniant wedi'i reoleiddio'n cael ei gynnal.

 

m.  Bydd deiliad y drwydded mangre neu berson enwebedig yn darparu copïau o'r cofnod digwyddiadau a chofnodion gwrthod i'r Heddlu ar ddiwedd bob mis calendr, ar gais.

 

n.    Bydd staff y fangre'n derbyn hyfforddiant achrededig ar gyfer cynhyrchion sy'n gysylltiedig ag oedran cyn gwerthu alcohol. Bydd hyfforddiant yn cynnwys eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, cynhelir hyfforddiant gloywi o leiaf bob chwe (6) mis. Bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei gofnodi naill ai ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, a threfnir ei fod ar gael i'r Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais.

 

o.    Drwy rinwedd a177A o Ddeddf Trwyddedu 2003, bydd amodau'r Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant wedi'i reoleiddio mewn grym rhwng 08:00 a 23:00.

 

p.    Ni fydd unrhyw sŵn wedi'i fwyhau yn ardaloedd allanol y fangre (gan gynnwys yr ardd gwrw, y maes parcio a/neu unman arall y tu allan i gwrtil yr adeilad). Mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn cynnwys chwyddseinwyr a seinyddion Bluetooth a ddefnyddir gan staff y fangre a chwsmeriaid.

 

ph. Bydd deiliad y drwydded mangre, neu berson enwebedig, yn cynnal arsylwadau sŵn rhagweithiol y tu allan i’r fangre o leiaf unwaith yr awr wrth fod adloniant wedi'i reoleiddio yn cael ei ddarparu a bydd yn cymryd unrhyw gamau adferol angenrheidiol.

 

r.     Cedwir cofnod ysgrifenedig o arsylwadau sŵn rhagweithiol y tu allan i'r fangre o'r amseroedd, y dyddiadau, unrhyw broblemau a ddarganfuwyd a, lle y bo'n berthnasol, pa gamau unioni a gymerwyd. Cedwir y cofnodion hyn am o leiaf dri deg un (31) diwrnod. Rhaid sicrhau bod y cofnodion ar gael, ar gais, i'w harchwilio gan swyddog awdurdodedig yr Cyngor bob amser pan fydd y fangre ar agor. 

 

rh. Ni chaniateir i siaradwyr fod wrth fynedfa nac allanfa'r fangre, na thu allan i'r adeilad, ac eithrio ar gyfer y digwyddiad.

 

Dogfennau ategol: