Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 16eg Awst, 2021 10.01 am

Lleoliad: Microsoft Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cais i amrywio Trwydded Mangre - The Other Place

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i amrywio Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

The Other Place

Cyfeiriad y fangre

9 Ffordd Ynysderw, Pontardawe SA8 4EG

Enw'r Ymgeisydd

HB Pub Investments Ltd

Cyfeiriad yr ymgeisydd

The Aubrey Arms, Ffordd Gurnos,

Ystradgynlais SA9 2LA

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Hans Andrei Dionisio Erive

 

Penderfynwyd: Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais i amrywio'r Drwydded Safle, yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu, ac fel yr ystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Dyma'r amodau:

 

a.    Ni chaniateir i'r bar allanol (fel y nodir ar y cynllun sydd ynghlwm wrth y drwydded) werthu alcohol rhwng 9.00pm a 7.59am;

b.    Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd gwrw y tu allan, yn gofyn i gwsmeriaid gadw lefelau sŵn i'r lefel lleiaf posib a gadael mewn modd tawel a threfnus, er mwyn lleihau'r effaith ar breswylwyr lleol;

 

c.     Caiff system teledu cylch cyfyng ddigidol ei gosod ar y safle neu caiff y system bresennol ei chynnal, a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid cadw'r recordiadau teledu cylch cyfyng am gyfnod o dri deg un (31) o ddiwrnodau, a'u gwneud ar gael i'w gwylio gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar gais:

 

Rhaid i'r system roi sylw i'r meysydd canlynol:

                                      i.        Perimedr allanol y safle;

                                     ii.        Mynedfa/mynedfeydd ac allanfa/allanfeydd y safle;

                                    iii.        Pob rhan gyhoeddus o'r safle (ac eithrio'r toiledau).

 

d.    Bydd aelod o staff o'r safle, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r Heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais cyfreithlon;

 

e.    Bob nos Wener a nos Sadwrn, y nos Sul cyn unrhyw wyliau cyhoeddus, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Gwener y Groglith, bydd o leiaf ddau (2) oruchwylydd drws cofrestredig SIA ar ddyletswydd o 9.00pm tan yr amser cau;

 

f.      Ar bob adeg arall, bydd Deiliad y Drwydded Safle yn asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac mewn unrhyw niferoedd sy'n ofynnol gan yr asesiad risg. Byddant hefyd yn arddangos eu trwydded SIA mewn band braich adlewyrchol tra byddant ar ddyletswydd;

 

g.    Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch yn cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn gweithredu. Rhaid bod y gofrestr ar gael i'r Heddlu neu swyddog awdurdodedig o'r cyngor ei harchwilio;

 

h.    Bydd polisi Herio 25 yn berthnasol a bydd angen Prawf o Oedran gan unrhyw berson sy'n ymddangos o dan 25 oed sy'n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r dull hwn o ddilysu fod yn fath o adnabyddiaeth sy'n cynnwys  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Cais am ganiatâd ar gyfer Trwydded Mangre - Family Shopper

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Family Shopper

Cyfeiriad y fangre

11-13 Ysguthan Road, Port Talbot SA12 6LY

Enw'r Ymgeisydd

Thayanlini Nageswaran

Cyfeiriad yr ymgeisydd

86 Farm Drive, Port Talbot SA12 6TF

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Thayanlini Nageswaran

 

PENDERFYNWYD:      Cymeradwyo’r cais am roi Trwydded Safle – Family Shopper, 11-13 Ysguthan Road, Port Talbot SA12 6LY a wnaed gan Thayanlini Nageswaran, 86 Farm Drive, Port Talbot SA12 6TF, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac yn amodol ar yr oriau gweithredu a'r amodau canlynol

 

3.

Cais i amrywio Trwydded Mangre - Gwesty'r Glyn Clydcach

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i Amrywio Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Gwesty Glyn Clydach

Cyfeiriad y fangre

Heol Longford, Longford, Castell-nedd

Enw'r Ymgeisydd

Brian Sheppard

Cyfeiriad yr ymgeisydd

54 yr Heol Fawr, Bryncoch SA10

7TA

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Brian Sheppard

 

PENDERFYNWYD:       Cymeradwyo’r cais am roi Trwydded Safle – Gwesty Glyn Clydach, a wnaed gan, Brian Sheppard, Heol Longford, Castell-nedd SA11 1RA, yn amodol ar yr oriau gweithredu a'r amodau fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd