Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cais i amrywio Trwydded Mangre - Premier Stores Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau ystyried
sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i amrywio Trwydded
Mangre a gymeradwywyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r cais i amrywio Trwydded Mangre – Premier
Stores, Stryd Fawr, Cwmgwrach, SA11 5TA a wnaed gan Rebecca James, Tŷ
Siloh, Heol Wenallt, Cwmgwrach, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac
yn amodol ar yr amodau canlynol; 1.
Estyn y fangre i gynnwys lle i werthu ar y safle ac oddi
yno a newid cynllun y fangre i gynnwys caffi bistro yn y cefn. 2.
Cyflenwi alcohol yn y fangre ac oddi arni: Dydd Llun i
ddydd Sul: 06:00 – 23:30 Mae'r
ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r caffi/bistro
yn unig rhwng 11:00 a 23:30 3.
Oriau agor y fangre: Dydd Llun i
ddydd Sul: 06:00 - 23:30 Mae'r
ymgeisydd wedi cytuno â'r heddlu y bydd alcohol yn cael ei werthu o'r
caffi/bistro yn unig rhwng 11:00 a 23:30 Amodau Trosedd ac Anhrefn: 4.
Gosodir teledu cylch cyfyng fel y gellir monitro
ardaloedd trwyddedadwy gan gynnwys mynedfeydd, allanfeydd a chefn y fangre.
Cedwir y ffilm am o leiaf 28 niwrnod a bydd ar gael i'w harchwilio gan
swyddogion awdurdodedig. 5.
Ni chaniateir mynediad ar unrhyw adeg i unrhyw un sy'n
cario gwydrau agored neu wydrau a seliwyd. 6.
Ni chaniateir mynd ag alcohol sydd wedi'i brynu yn y siop
i mewn i'r bistro dan unrhyw amgylchiadau. Caiff pob diod ei gweini mewn gwydr,
ni fydd caniau na photeli ar gael. 7.
Bydd llyfr cofnod achosion yn cael ei gadw yn y fangre ar
gyfer archwiliadau gan swyddogion awdurdodedig. 8.
Ni chaniateir mynediad ac ni werthir alcohol i unrhyw
berson sy'n feddw ac/neu sy'n ymddwyn yn afreolus ac ni chaniateir iddo aros yn
y fangre. Diogelwch y Cyhoedd: 9.
Bydd cofnod neu system recordio yn cael ei gadw yn y
fangre ac ynddo nodir manylion yr archwiliadau a wnaed; y rheini y mae'n
ofynnol eu gwneud yn statud a gwybodaeth a gasglwyd i gydymffurfio ag unrhyw
amod sy'n ymwneud â diogelwch y cyhoedd sydd ynghlwm wrth y drwydded mangre
sy'n gofyn am gofnodi gwybodaeth o'r fath. Bydd y llyfr cofnodion ar gael i'w
archwilio pan fydd yn ofynnol gan bersonau a awdurdodwyd gan Ddeddf Trwyddedu
2003 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig. 10. Darperir mynediad digonol
ar gyfer cerbydau brys a phersonol. 11. Bydd pob rhan o'r fangre
a'r holl osodiadau a chyfarpar ynddi, gan gynnwys ffasnyddion a hysbysiadau
drysau a'r seddi, goleuadau, system wresogi, system drydanol, system awyru,
cyfleusterau iechydol, cyfleusterau golchi a gosodiadau eraill yn cael eu
cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel bob amser. 12. Dylid archwilio'r fangre
cyn iddi agor i'r cyhoedd i sicrhau nad oes unrhyw risgiau i gwsmeriaid a bod
yr holl ragofalon diogelwch ar waith. 13. Hyfforddiant priodol ynghylch rhagofalon a gweithdrefnau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |