Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cyng. Paddison bawb i'r cyfarfod a
galwyd yr enwau |
|||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|||||||||||||
Cais i amrywio Trwydded Mangre - Kitty O'Sheas Cofnodion: Roedd yr ymgeisydd yn dymuno cael ei gynrychioli'n
gyfreithiol ac felly gwnaed penderfyniad na fyddai penderfyniad yn cael ei
wneud ynghylch y cais yn y cyfarfod |
|||||||||||||
Mynediad i gyfarfodydd Cofnodion: That
pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the
public be excluded for the following items of business which involved the
likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 12 and 18 of
Part 4 of Schedule 12A of the above Act. |
|||||||||||||
Cais i adolygu Tystysgrif Mangre Clwb – Clwb Rygbi Banwen Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau gais i adolygu Tystysgrif
Mangre Clwb ac ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol
a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003:
PENDERFYNWYD: Penderfynodd yr Is-bwyllgor addasu amodau'r drwydded
mangre fel y byddai'r amodau canlynol yn berthnasol: a. Gwahardd gweithgarwch clwb cymwys rhag cwmpas y
Dystysgrif am gyfnod o chwe (6)
wythnos. Er mwyn osgoi pob amheuaeth, mae'r gwaharddiad yn berthnasol i
gyflenwi alcohol yn unig (dydd Llun i ddydd Sul: 10:00 - 00:00) a dim
gweithgarwch trwyddedadwy arall. Mae hyn yn golygu bod y fangre'n cael ei hatal
rhag cyflenwi alcohol am chwe (6) wythnos; ac b. Addasu amodau'r Dystysgrif lle bo hynny'n briodol ar gyfer hyrwyddo'r
amcanion trwyddedu.
a. Ni chynhelir unrhyw ddigwyddiad(au) hyrwyddedig a/neu
farchnata allanol yn y fangre sy'n cynnwys pobl dan 18 oed; b. Ar bob adeg arall, bydd Deiliad y Drwydded Mangre'n asesu'r
angen am oruchwylwyr drysau Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac yn darparu
goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr angen sy'n ofynnol gan yr
asesiad risg. Bydd dogfen ysgrifenedig yn cael ei chadw a'i darparu i'r Heddlu
a/neu swyddogion awdurdodedig y cyngor, ar gais; c. Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch, os caiff ei
defnyddio, yn cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn cynnwys y canlynol: enw;
cyfeiriad; a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws a'r dyddiad(au) a'r amser(au) y
maent yn gweithredu. Rhaid i’r gofrestr gael ei chadw i'w harchwilio gan yr
Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor; d. Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu
gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y
fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol
ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch
cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o dri deg un (31)
diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr Heddlu a/neu
swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais. Rhaid
i'r system roi sylw i'r meysydd canlynol:
i.
Perimedr
allanol y fangre;
ii.
Mynedfeydd
ac allanfeydd y fangre; ac
iii.
Ardaloedd
cyhoeddus mewnol y fangre. e. Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â
gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre
ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu
luniau diweddar i'r Heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â
phosib yn dilyn cais cyfreithlon; f. Rhaid cynnal adroddiad log dyddiol, ynghyd â llofnod, sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd unrhyw fethiannau, bydd yn rhaid cofnodi'r camau gweithredu. Os ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section
100B(4)(b) of the Local Government Act 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Eitemau Brys |