Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelodau gais i adolygu Tystysgrif
Mangre Clwb ac ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol
a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003:
Enw'r clwb |
Clwb
Rygbi Banwen |
Cyfeiriad y clwb |
Meysydd
chwarae Banwen |
Enw'r ymgeisydd |
Mr
Nicholas Bailey |
Cyfeiriad yr ymgeisydd |
Heddlu
De Cymru, URS Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Gorsaf Heddlu Castell-nedd,
Heol Parc y Gnoll, Castell-nedd SA11 3BW. |
Enw deiliad trwydded y clwb |
Clwb Rygbi Banwen |
GMD |
Mr Norman Thomas |
PENDERFYNWYD: Penderfynodd yr Is-bwyllgor addasu amodau'r drwydded
mangre fel y byddai'r amodau canlynol yn berthnasol:
a. Gwahardd gweithgarwch clwb cymwys rhag cwmpas y
Dystysgrif am gyfnod o chwe (6)
wythnos. Er mwyn osgoi pob amheuaeth, mae'r gwaharddiad yn berthnasol i
gyflenwi alcohol yn unig (dydd Llun i ddydd Sul: 10:00 - 00:00) a dim
gweithgarwch trwyddedadwy arall. Mae hyn yn golygu bod y fangre'n cael ei hatal
rhag cyflenwi alcohol am chwe (6) wythnos; ac
b. Addasu amodau'r Dystysgrif lle bo hynny'n briodol ar gyfer hyrwyddo'r
amcanion trwyddedu.
a. Ni chynhelir unrhyw ddigwyddiad(au) hyrwyddedig a/neu
farchnata allanol yn y fangre sy'n cynnwys pobl dan 18 oed;
b. Ar bob adeg arall, bydd Deiliad y Drwydded Mangre'n asesu'r
angen am oruchwylwyr drysau Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac yn darparu
goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr angen sy'n ofynnol gan yr
asesiad risg. Bydd dogfen ysgrifenedig yn cael ei chadw a'i darparu i'r Heddlu
a/neu swyddogion awdurdodedig y cyngor, ar gais;
c. Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch, os caiff ei
defnyddio, yn cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn cynnwys y canlynol: enw;
cyfeiriad; a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws a'r dyddiad(au) a'r amser(au) y
maent yn gweithredu. Rhaid i’r gofrestr gael ei chadw i'w harchwilio gan yr
Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor;
d. Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu
gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y
fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol
ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch
cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o dri deg un (31)
diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr Heddlu a/neu
swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais.
Rhaid
i'r system roi sylw i'r meysydd canlynol:
i.
Perimedr
allanol y fangre;
ii.
Mynedfeydd
ac allanfeydd y fangre; ac
iii.
Ardaloedd
cyhoeddus mewnol y fangre.
e. Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â
gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre
ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu
luniau diweddar i'r Heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â
phosib yn dilyn cais cyfreithlon;
f. Rhaid cynnal adroddiad log dyddiol, ynghyd â llofnod,
sy'n nodi bod y system wedi'i gwirio a'i bod yn cydymffurfio. Os bydd unrhyw
fethiannau, bydd yn rhaid cofnodi'r camau gweithredu. Os bydd methiant
technegol gyda'r cyfarpar CCTV, rhaid i Ddeiliad Trwydded y Fangre a/neu'r GMD
ddweud wrth yr Heddlu a/neu'r cyngor am y methiant;
g. Rhaid darparu arwyddion amlwg ym mhob rhan o'r fangre ac
ym mhob allanfa yn gofyn i bobl adael mewn modd tawel a threfnus er mwyn
lleihau'r effaith ar breswylwyr lleol.
h. Bydd polisi ‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed
gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed
alcohol. Dylai'r modd gwirio fod ar ffurf dull adnabod sy’n cynnwys: llun o’r
person; ei ddyddiad geni; a marc holograffig, a dylid ei gyfyngu i;
i.
gynlluniau
prawf oedran achrededig PASS. e.e. Cerdyn y Dinesydd;
ii.
Cerdyn
Prawf o Oedran y DU;
iii.
Cerdyn
ffotograff, trwydded yrru neu basbort.
i. Rhaid arddangos arwyddion mewn man amlwg yn y fangre, gan
ddilyn y polisi ‘Her 25’;
j. Bydd cofrestr o wrthodiadau alcohol yn cael ei chynnal yn
y fangre. Bydd y rheolwr dyletswydd a/neu'r GMD yn archwilio’r gofrestr yn
rheolaid, a bydd dyddiad ac amser pob archwiliad yn cael ei ardystio yn y
gofrestr. Trefnir bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr Heddlu a/neu
swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais;
k. Bydd staff yn derbyn hyfforddiant achrededig ar gyfer
cynhyrchion sy'n gysylltiedig ag oedran cyn gwerthu alcohol. Bydd hyfforddiant
yn cynnwys eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, cynhelir hyfforddiant
gloywi o leiaf bob chwe (6) mis. Bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei gofnodi
naill ai ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, a threfnir ei fod ar gael i'r
Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais.