Lleoliad: Multi Location Hybrid Micosoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Cais am Drwydded Safle - The Surge Cafe Bar - 74 Commerical Road, Tai-bach, Port Talbot PDF 212 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais am
drwydded mangre, yn amodol ar amodau, a chyda diwygiad i'r amserlen weithredu,
ac fel y'i hystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Amod[au]
a. Oriau agor:
i.
Dydd Llun i
ddydd Sul, 08:00 – 23:00. b. Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno):
i.
Dydd Llun i
ddydd Sul, 11:00– 22:00
Atal trosedd ac anhrefn a. Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu
gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol ar bob adeg pan fydd
y fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd
tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau
teledu cylch cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o 31
diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr heddlu neu swyddog
awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu ar gais. Rhaid i'r system gwmpasu'r
ardaloedd canlynol: ·
Tu blaen
allanol y fangre; ·
Mynedfa ac
allanfeydd y fangre; ac ·
Ardaloedd
cyhoeddus mewnol y fangre. b. Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r
system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r
cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau
diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib
yn dilyn cais cyfreithlon. c. Bydd llyfr cofnodi digwyddiadau'n cael ei gadw yn y
fangre sy'n dangos manylion dyddiad ac amser ymosodiadau, anafiadau, damweiniau
neu droadau allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff fu'n ymwneud â hyn,
natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan
yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Lleol. ch. Bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r
angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr amserau
hynny, gan sicrhau bod nifer digonol o oruchwylwyr fel sy'n ofynnol gan yr
asesiad risg. Bydd pob goruchwyliwr drws
yn arddangos ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) mewn rhwymyn
braich adlewyrchol pan fydd ar ddyletswydd. d. Os caiff ei defnyddio, cynhelir cofrestr ddyddiol o
bersonél diogelwch. Bydd y gofrestr yn
dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r
amseroedd y maent yn gweithredu. Rhaid
bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig
yr awdurdod lleol. Amddiffyn plant rhag niwed dd.
Bydd polisi
‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed gan unrhyw berson sy’n ymddangos
yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r dull gwirio fod yn
fath o ddull adnabod sy'n dwyn ffotograff a dyddiad geni'r person ynghyd â marc
holograffig, a dylid ei gyfyngu i'r canlynol: ·
Cerdyn PASS
Cynlluniau Prawf Oedran Achrededig e.e. Cerdyn y Dinesydd; ·
Proof GB; ·
Cerdyn
ffotograff, trwydded yrru neu basbort. e. Rhaid i'r fangre gadw cofnodion cyfoes o hyfforddiant staff mewn perthynas â ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
The Surge Cafe Bar - Eitem Atodol PDF 783 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Ystyriwyd yr eitemau atodol ynghyd â'r prif
adroddiad ar yr agenda.
|