Agenda item

Cais am Drwydded Safle - The Surge Cafe Bar - 74 Commerical Road, Tai-bach, Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniad:

Penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais am drwydded mangre, yn amodol ar amodau, a chyda diwygiad i'r amserlen weithredu, ac fel y'i hystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

 

 

Amod[au]

  1. Yr oriau gweithredu yw:

a.   Oriau agor:

                                     i.        Dydd Llun i ddydd Sul, 08:00 – 23:00.

 

b.   Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno):

                                     i.        Dydd Llun i ddydd Sul, 11:00– 22:00

 

  1. Yn dilyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu, ac a gytunwyd gan yr Ymgeisydd, dyma'r amodau a osodir:

 

Atal trosedd ac anhrefn

a.   Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol ar bob adeg pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o 31 diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu ar gais.

 

Rhaid i'r system gwmpasu'r ardaloedd canlynol:

·        Tu blaen allanol y fangre;

·        Mynedfa ac allanfeydd y fangre; ac

·        Ardaloedd cyhoeddus mewnol y fangre.

 

b.   Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais cyfreithlon.

 

c.   Bydd llyfr cofnodi digwyddiadau'n cael ei gadw yn y fangre sy'n dangos manylion dyddiad ac amser ymosodiadau, anafiadau, damweiniau neu droadau allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff fu'n ymwneud â hyn, natur y digwyddiadau a'r cam gweithredu/canlyniad.  Rhaid bod y llyfr ar gael i'w archwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Lleol.

 

ch. Bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr amserau hynny, gan sicrhau bod nifer digonol o oruchwylwyr fel sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.  Bydd pob goruchwyliwr drws yn arddangos ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) mewn rhwymyn braich adlewyrchol pan fydd ar ddyletswydd.

 

d.   Os caiff ei defnyddio, cynhelir cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch.  Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn gweithredu.  Rhaid bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol.

 

Amddiffyn plant rhag niwed

dd.                Bydd polisi ‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed alcohol. Dylai'r dull gwirio fod yn fath o ddull adnabod sy'n dwyn ffotograff a dyddiad geni'r person ynghyd â marc holograffig, a dylid ei gyfyngu i'r canlynol:

·        Cerdyn PASS Cynlluniau Prawf Oedran Achrededig e.e. Cerdyn y Dinesydd;

·        Proof GB;

·        Cerdyn ffotograff, trwydded yrru neu basbort.

 

e.   Rhaid i'r fangre gadw cofnodion cyfoes o hyfforddiant staff mewn perthynas â gwerthiannau sy'n ymwneud ag oedran, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, sydd ar gael i'w harchwilio gan swyddog awdurdodedig.

 

f.     Cedwir cofnod sy'n manylu ar bob achos o wrthod gwerthu alcohol.  Dylai'r cofnod gynnwys y dyddiad a'r amser y gwrthodwyd gwerthu alcohol ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu.  Dylai'r cofnod fod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr Heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob achlysur pan fydd y fangre ar agor. Bydd llyfr gwrthod yn cael ei gynnal sy'n cofnodi dyddiad ac amser pob ymgais gan bobl dan 18 oed i brynu alcohol. Trefnir bod y llyfr ar gael i'w harchwilio gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: