Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i'r
Pwyllgor a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth Fframwaith
Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu
a chyflawni'r cynllun.
Cyfeiriwyd at Strategaeth
Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn
gweithio ar ddehongli'r strategaeth a nodi sut roedd yn ymwneud â Rhanbarth
De-orllewin Cymru; mae Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn
nodi cyd-destun sut y byddai Llwybr Newydd yn cael ei weithredu ar lefel
ranbarthol.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
yr amserlenni ar gyfer cyflawni'r cynllun. Roedd Swyddogion wedi mynegi
pryderon yn y gorffennol o ran yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a
effeithiodd ar gynnydd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio'r
amserlen, yn benodol drwy symud y cyflwyniad terfynol o fis Ebrill 2025 i fis
Mehefin 2025.
Derbyniodd yr Aelodau y
newyddion canlynol mewn perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol: nodwyd bod 'llyfr data' wedi'i lunio er mwyn i Swyddogion ddechrau
deall sut i flaenoriaethu cynlluniau a phethau tebyg: yn y bôn, roedd y 'llyfr
data' yn crynhoi'r holl wybodaeth a gasglwyd o wahanol ffynonellau.
Eglurodd Swyddogion fod yr
ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ‘Achos dros Newid’ bellach wedi dod i ben;
derbyniwyd ychydig dros 800 o ymatebion ffurfiol, ac roedd pob un ohonynt yn
cael eu coladu ar hyn o bryd. Nodwyd bod ychydig mwy o ymatebion wedi dod i law
o ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot; fodd bynnag, ym marn
cydweithwyr a oedd yn cynnal yr ymgynghoriad, roedd y sampl yn gynrychioliadol.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai Swyddogion yn ceisio targedu pobl iau yn
yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf.
Ar ben yr uchod, amlygwyd bod
dwy thema allweddol wedi dod i'r amlwg yn yr ymgynghoriad; roedd pryderon
ynghylch elfennau teithio llesol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 (Llwybr
Newydd), yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yr ail thema a nodwyd oedd argaeledd
cludiant cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaethau bysiau; roedd yn amlwg y byddai'r
cyhoedd yn defnyddio cyfleusterau bws yn fwy, ond roedd pryderon ynghylch
amserau gweithredu, diwrnodau gweithredu a chostau.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â'r Asesiad Lles, a oedd yn mynd rhagddo. Esboniwyd bod Swyddogion
wrthi'n adolygu'r adroddiad cwmpasu; bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei
gynnal ynghylch hwn â'r ymgynghoreion statudol.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r
cam nesaf yn y broses oedd dechrau edrych ar gynlluniau penodol; roedd
Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn cynorthwyo yn y cam hwn drwy
gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol. Soniwyd y byddai Swyddogion hefyd
yn edrych ar nifer o gynlluniau a allai o bosib ryngwynebu â rheilffyrdd a
chefnffyrdd. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd gan Swyddogion restr fer o
gynlluniau a argymhellir ar ddiwedd y broses benodol hon; trefnwyd gweithdy
gydag Aelodau'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol i drafod y cynlluniau a'r
blaenoriaethau.
Mynegodd Cadeirydd ac
Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ar ran holl Aelodau'r
Pwyllgor, eu bod yn ddiolchgar i'r Swyddogion ar draws y rhanbarth a oedd wedi
gweithio ar ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yn hyn.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4