Agenda item

Fframwaith Polisi (Drafft) y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a Diweddariad am yr Ymgynghoriad

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu a chyflawni'r cynllun.

Cyfeiriwyd at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddehongli'r strategaeth a nodi sut roedd yn ymwneud â Rhanbarth De-orllewin Cymru; mae Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi cyd-destun sut y byddai Llwybr Newydd yn cael ei weithredu ar lefel ranbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amserlenni ar gyfer cyflawni'r cynllun. Roedd Swyddogion wedi mynegi pryderon yn y gorffennol o ran yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a effeithiodd ar gynnydd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio'r amserlen, yn benodol drwy symud y cyflwyniad terfynol o fis Ebrill 2025 i fis Mehefin 2025.

Derbyniodd yr Aelodau y newyddion canlynol mewn perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: nodwyd bod 'llyfr data' wedi'i lunio er mwyn i Swyddogion ddechrau deall sut i flaenoriaethu cynlluniau a phethau tebyg: yn y bôn, roedd y 'llyfr data' yn crynhoi'r holl wybodaeth a gasglwyd o wahanol ffynonellau.

Eglurodd Swyddogion fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ‘Achos dros Newid’ bellach wedi dod i ben; derbyniwyd ychydig dros 800 o ymatebion ffurfiol, ac roedd pob un ohonynt yn cael eu coladu ar hyn o bryd. Nodwyd bod ychydig mwy o ymatebion wedi dod i law o ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot; fodd bynnag, ym marn cydweithwyr a oedd yn cynnal yr ymgynghoriad, roedd y sampl yn gynrychioliadol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai Swyddogion yn ceisio targedu pobl iau yn yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf.

Ar ben yr uchod, amlygwyd bod dwy thema allweddol wedi dod i'r amlwg yn yr ymgynghoriad; roedd pryderon ynghylch elfennau teithio llesol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 (Llwybr Newydd), yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yr ail thema a nodwyd oedd argaeledd cludiant cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaethau bysiau; roedd yn amlwg y byddai'r cyhoedd yn defnyddio cyfleusterau bws yn fwy, ond roedd pryderon ynghylch amserau gweithredu, diwrnodau gweithredu a chostau.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r Asesiad Lles, a oedd yn mynd rhagddo. Esboniwyd bod Swyddogion wrthi'n adolygu'r adroddiad cwmpasu; bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal ynghylch hwn â'r ymgynghoreion statudol.

Cadarnhaodd swyddogion mai'r cam nesaf yn y broses oedd dechrau edrych ar gynlluniau penodol; roedd Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn cynorthwyo yn y cam hwn drwy gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol. Soniwyd y byddai Swyddogion hefyd yn edrych ar nifer o gynlluniau a allai o bosib ryngwynebu â rheilffyrdd a chefnffyrdd. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y bydd gan Swyddogion restr fer o gynlluniau a argymhellir ar ddiwedd y broses benodol hon; trefnwyd gweithdy gydag Aelodau'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol i drafod y cynlluniau a'r blaenoriaethau.

Mynegodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, ar ran holl Aelodau'r Pwyllgor, eu bod yn ddiolchgar i'r Swyddogion ar draws y rhanbarth a oedd wedi gweithio ar ddatblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hyd yn hyn. 

PENDERFYNWYD:

1.    Nodi adroddiadau cynnydd llafar gan Swyddogion ar ffrydiau gwaith datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

2.    Cymeradwyo fframwaith polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

3.    Cymeradwyo rhaglen gwaith datblygu ddiwygiedig y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Dogfennau ategol: