Diweddariad ar roi mesurau Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwastraff ar waith (i ddilyn)
Cofnodion:
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am lunio'r adroddiad
diweddaraf, yr oedd aelodau o'r farn ei fod yn gynhwysfawr ac yn ategu'r
adroddiad.
Nododd yr Aelodau ar dudalen 33 o'r adroddiad ei fod yn
rhestru'r ddirwy am beidio â chyrraedd y targed gwastraff a osodwyd gan
Lywodraeth Cymru fel £200 y dunnell dros y targed. Teimlai'r Aelodau y byddai'n
well ei ail-eirio ar sail amcangyfrif o gyfanswm y ganran dros y targed, gan y
gallai gael mwy o effaith.
Teimlai'r Aelodau bod cwestiynau 1 a 2 yn yr holiadur yn
debyg iawn ac y gellid eu cyfuno er mwyn helpu dealltwriaeth a chynyddu
ymgysylltiad.
Nododd swyddogion fod y ffigwr ar gyfer pob 1% wedi'i
gyfrifo ac y gallent ystyried hynny; roedd swyddogion hefyd yn derbyn y syniad
o uno'r ddau gwestiwn pan fyddant yn cwblhau'r cwestiynau a gyflwynir yn yr
ymgynghoriad.
Awgrymodd yr aelodau nad oedd angen y cwestiwn ynghylch
amlder y casgliadau, oherwydd bod arweinydd y cyngor yn dweud na fyddai hyn yn
newid i dri chasgliad wythnosol.
O ran codi tâl am wastraff gwyrdd, roedd yr aelodau'n poeni
y byddai'n creu effaith negyddol ar yr amgylchedd gan y gallai pobl losgi'r
gwastraff eu hunain neu ddechrau ei roi mewn biniau gyda gwastraff arferol neu
hyd yn oed gael gwared arno eu hunain.
Holodd yr aelodau hefyd faint o gynghorau sydd wedi talu
dirwy i Lywodraeth Cymru hyd yn hyn.
Eglurodd swyddogion na allant wneud sylw ar unrhyw
ddatganiadau gwleidyddol a'u bod yn gwbl glir y gwnaed penderfyniad ffurfiol ym
mis Ebrill 2023 i gynnal ymgynghoriad a bod y rhan hon o'r cynllun gweithredu'n
cynnwys cyflawni'r penderfyniad hwnnw a wnaed ym mis Ebrill 2023.
Mewn perthynas â gwastraff gwyrdd, dywedodd swyddogion y
bydden nhw'n archwilio yn yr ymgynghoriad beth fyddai'n digwydd i wastraff
gwyrdd yn ogystal â gwastraff plastig. Dywedodd swyddogion fod y cerbydau
ailgylchu a sbwriel ar fin cael eu hadnewyddu a dyma'r amser priodol i ystyried
y mathau o gerbydau y mae angen iddynt eu prynu fel bod ganddynt y rhai cywir
am y 7-9 mlynedd nesaf.
Cafodd yr aelodau wybod bod rhai cynghorau wedi cael dirwyon
gan Lywodraeth Cymru, ond doedd gan swyddogion ddim y manylion ynghylch a
wnaethant eu talu.
Dywedodd yr aelodau nad ydynt yn credu bod unrhyw ffordd o
fonitro faint o wastraff gardd y gallai'r cyhoedd ei losgi neu ei roi yn y
biniau gwastraff arferol. Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod aelodau'r
cabinet yn bresennol ac roeddent yn sicr y byddai'r adborth gan aelodau Craffu
yn cael ei ystyried ynghyd â phopeth a ddaw yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Gofynnwyd i swyddogion am y gwastraff cynnyrch hylendid
amsugnol gan mai'r adborth gan y cyhoedd i'r aelodau oedd bod y blychau'n rhy
fach a gofynnwyd a fyddai addasrwydd y blychau'n cael ei adolygu.
Cadarnhaodd swyddogion y gellir adolygu'r maint ac, yn anffodus, nad oedd yr adborth a roddwyd i breswylwyr ynghylch beth oedd diben y biniau cystal ag y dylai fod wedi bod. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad biniau storio yw'r biniau hyn, ond ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4