Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 28/02/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu).  

 

Cofnodion:

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am roi eglurder y tu allan i'r cyfarfod, mewn perthynas â £3.87m a grybwyllir ar dudalen 24 o'r adroddiad, sydd wedi'i symud yn ôl i gronfeydd wrth gefn penodol oherwydd gwaith heb ei gwblhau. Holodd yr aelodau a oedd digon o swyddogion ar gael i gwblhau'r gwaith angenrheidiol yn ystod y flwyddyn refeniw.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid mai dwy eitem oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r £3.87m a symudwyd yn ôl i gronfeydd wrth gefn; mae £2.379m yn ymwneud ag oedi wrth brynu cerbydau ailgylchu mawr, sydd wedi'i ohirio wrth i adolygiad o’r cerbydlu gael ei gynnal. Roedd swm o £700 mil wedi'i gyllidebu ar gyfer ailfodelu Gorsaf Drosglwyddo Crumlin Burrows - mae'r gwaith hwn wedi'i ohirio tan 2025. Mae 12 cofnod arall yn cael eu dychwelyd i gronfeydd wrth gefn; mae heriau o ran recriwtio staff wedi bod yn ffactor cyfrannol yn enwedig yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio'r amgylchiadau a amlinellwyd, a dywedodd wrth aelodau fod taliadau atodol ar sail y farchnad wedi'u defnyddio gyda pheth llwyddiant mewn rhai gwasanaethau i fynd i'r afael â materion recriwtio staff. Mae cyllideb dros ben i fynd i'r afael â'r materion capasiti a drafodwyd gydag aelodau o'r blaen. 

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 30 o'r adroddiad a oedd wedi'i gynnwys ym mhecyn yr agenda a'r tanwariant arfaethedig o £600,000 mewn ynni, effeithlonrwydd, trawsnewid a chynlluniau wrth gefn. Holodd yr aelodau a fydd y £700 mil y nodwyd ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety wrth gefn i ariannu cynlluniau goleuadau effeithlonrwydd ynni yn ystod 2024/25 yn cael ei drosglwyddo fel prosiect cyfalaf neu refeniw.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid y bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety wrth gefn, sy'n gronfa refeniw. Caiff y prosiectau eu cyflawni fel prosiectau cyfalaf ond cânt eu hariannu drwy gronfa refeniw.  Nodwyd y gellir ariannu gwariant cyfalaf drwy gronfeydd refeniw ond nid i'r gwrthwyneb. Mae dau brosiect adnewyddu goleuadau LED ar raddfa fawr wedi'u nodi yn y Ceiau a Chanolfan Ddinesig Chastell-nedd ond nid oedd modd eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, mae cyllid wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i'w ddefnyddio'r flwyddyn nesaf pan fydd y prosiectau'n cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

 

Holodd yr aelodau pam na nodwyd y prosiectau fel prosiectau cyfalaf o'r cychwyn cyntaf a pham roedd tanwariant o'r fath.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio wrth aelodau fod ymdrechion yn cael eu gwneud i sefydlu tîm o swyddogion a fyddai'n canolbwyntio ar feysydd fel effeithlonrwydd ynni, carbon sero-net, newid yn yr hinsawdd ac ecoleg. Cafwyd anawsterau wrth dyfu'r tîm i'r maint gofynnol. Mae nifer o staff yn ymgymryd â’r dasg o leihau costau ynni'r awdurdod, gan sicrhau bod asedau'n gweithredu mor effeithlon â phosib. Mae astudiaethau adeiladu rheolaidd yn cael eu cynnal, ac mae achosion busnes ar waith i arddangos lle gellir cael enillion ar fuddsoddiad pe bai cynlluniau cyfalaf yn cael eu datblygu.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4