·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu).
Cofnodion:
Monitro'r
Gyllideb Refeniw - Chwarter 3
Diolchodd
yr aelodau i'r swyddogion am roi eglurder y tu allan i'r cyfarfod, mewn
perthynas â £3.87m a grybwyllir ar dudalen 24 o'r adroddiad, sydd wedi'i symud
yn ôl i gronfeydd wrth gefn penodol oherwydd gwaith heb ei gwblhau. Holodd yr
aelodau a oedd digon o swyddogion ar gael i gwblhau'r gwaith angenrheidiol yn
ystod y flwyddyn refeniw.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid mai dwy eitem oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r £3.87m
a symudwyd yn ôl i gronfeydd wrth gefn; mae £2.379m yn ymwneud ag oedi wrth
brynu cerbydau ailgylchu mawr, sydd wedi'i ohirio wrth i adolygiad o’r cerbydlu
gael ei gynnal. Roedd swm o £700 mil wedi'i gyllidebu ar gyfer ailfodelu Gorsaf
Drosglwyddo Crumlin Burrows - mae'r gwaith hwn wedi'i ohirio tan 2025. Mae 12
cofnod arall yn cael eu dychwelyd i gronfeydd wrth gefn; mae heriau o ran
recriwtio staff wedi bod yn ffactor cyfrannol yn enwedig yng Nghyfarwyddiaeth
yr Amgylchedd.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio'r amgylchiadau a amlinellwyd, a dywedodd
wrth aelodau fod taliadau atodol ar sail y farchnad wedi'u defnyddio gyda pheth
llwyddiant mewn rhai gwasanaethau i fynd i'r afael â materion recriwtio staff.
Mae cyllideb dros ben i fynd i'r afael â'r materion capasiti a drafodwyd gydag
aelodau o'r blaen.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 30 o'r adroddiad a oedd wedi'i gynnwys ym mhecyn yr
agenda a'r tanwariant arfaethedig o £600,000 mewn ynni, effeithlonrwydd,
trawsnewid a chynlluniau wrth gefn. Holodd yr aelodau a fydd y £700 mil y
nodwyd ei fod yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety wrth gefn i ariannu
cynlluniau goleuadau effeithlonrwydd ynni yn ystod 2024/25 yn cael ei
drosglwyddo fel prosiect cyfalaf neu refeniw.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid y bydd y cyllid yn cael ei drosglwyddo i'r gronfa llety
wrth gefn, sy'n gronfa refeniw. Caiff y prosiectau eu cyflawni fel prosiectau
cyfalaf ond cânt eu hariannu drwy gronfa refeniw. Nodwyd y gellir ariannu gwariant cyfalaf drwy
gronfeydd refeniw ond nid i'r gwrthwyneb. Mae dau brosiect adnewyddu goleuadau
LED ar raddfa fawr wedi'u nodi yn y Ceiau a Chanolfan Ddinesig Chastell-nedd
ond nid oedd modd eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, mae cyllid
wedi'i drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn i'w ddefnyddio'r flwyddyn nesaf pan
fydd y prosiectau'n cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.
Holodd
yr aelodau pam na nodwyd y prosiectau fel prosiectau cyfalaf o'r cychwyn cyntaf
a pham roedd tanwariant o'r fath.
Dywedodd
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio wrth aelodau fod ymdrechion yn cael eu
gwneud i sefydlu tîm o swyddogion a fyddai'n canolbwyntio ar feysydd fel
effeithlonrwydd ynni, carbon sero-net, newid yn yr hinsawdd ac ecoleg. Cafwyd
anawsterau wrth dyfu'r tîm i'r maint gofynnol. Mae nifer o staff yn ymgymryd
â’r dasg o leihau costau ynni'r awdurdod, gan sicrhau bod asedau'n gweithredu
mor effeithlon â phosib. Mae astudiaethau adeiladu rheolaidd yn cael eu cynnal,
ac mae achosion busnes ar waith i arddangos lle gellir cael enillion ar
fuddsoddiad pe bai cynlluniau cyfalaf yn cael eu datblygu. Mae llawer o waith y
tîm yn fusnes fel arfer, felly nid oes côd cyllideb penodol ar gyfer y gwaith
ac mae'n cael ei wneud o fewn costau cyflog, sy'n cael eu defnyddio gan
Gyfarwyddiaeth yr Amgylchedd.
Gofynnodd
yr aelodau a oedd digon o staff ar gael i yrru prosiectau ymlaen i leihau
costau ynni.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio fod diffyg staff yn y tîm o hyd ond mae
cyllideb a strwythur ar waith i fynd i'r afael â hyn. Ar hyn o bryd, mae dau
arbenigwr technegol ac un swyddog gweinyddol yn y swydd sy'n gyfrifol am
adeiladu asedau yn ogystal ag amcanion strategaeth i leihau ôl troed carbon a'r
defnydd o ynni. Bu lefel wael iawn o ddiddordeb ar gyfer rhai o'r swyddi gwag
ond mae cyfweliadau'n cael eu cynnal ar gyfer y swydd Rheolwr yn fuan. Nodwyd
ei bod yn heriol sicrhau pobl a chanddynt y sgiliau priodol i gyflawni amcanion
y Cyngor.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 26 o'r adroddiad a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn agenda
a mynegwyd pryder am y newid yn sefyllfa cronfeydd wrth gefn ysgolion.
Cwestiynodd yr aelodau a fydd unrhyw ysgolion na fyddant mewn sefyllfa o
ddiffyg neu a fyddai ysgolion yn ystyried colli swyddi oherwydd y sefyllfa
ariannu.
Dywedodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau fod ymwybyddiaeth
o sefyllfaoedd ariannol cyfredol ysgolion a sefyllfaoedd tebygol wrth symud
ymlaen. Mae gan yr ysgolion a chanddynt ddiffyg ar hyn o bryd gynlluniau adfer
ar waith. Mae'n debygol y bydd colli swyddi yn digwydd mewn rhai ysgolion wrth
symud ymlaen oherwydd y sefyllfa gorwariant ar draws y sector ysgolion cyfan;
gall ysgolion ystyried colli swyddi'n wirfoddol er mwyn osgoi colli swyddi'n
orfodol.
Gofynnodd
yr aelodau a oedd cost gyfartalog am unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd gan y
Cyngor.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid fod cost pob adolygiad yn gysylltiedig â swm y gwaith dan
sylw, ac felly nid oedd cost gyfartalog. Nodwyd bod y rhan fwyaf o adolygiadau'n
cael eu cymeradwyo gan y Cabinet neu Fyrddau Cabinet felly bydd aelodau'n
ymwybodol o'r costau dan sylw. Bydd gan
bob adolygiad achos busnes sy'n datgan y bydd y costau'n cael eu had-dalu drwy
gynilion.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhelliad gan y Cabinet.
Monitro'r
Gyllideb Cyfalaf - Chwarter 3
Gofynnodd
yr aelodau am ddiweddariad am y gwariant mewn perthynas â phrosiect Sinema
Canolfan Celfyddydau Pontardawe.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid fod dyddiad cychwyn prosiect Sinema Canolfan y Celfyddydau
Pontardawe wedi'i ohirio. Gofynnwyd am
gymeradwyaeth yr aelodau i barhau â'r prosiect, oherwydd nad oedd digon o
gyllid. Disgwylir i'r contractwr ddechrau ar y safle o fewn y tair wythnos
nesaf a fydd yn arwain at fwy o wariant o ran gwaith dylunio a deunyddiau.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 47 o'r adroddiad a gofynnwyd am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â £441 mil nad yw wedi'i wario eto ar Adfywio Isadeiledd Glannau'r Harbwr.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid y byddai mwy o naratif yn cael ei gynnwys mewn
adroddiadau yn y dyfodol. Mewn perthynas â'r prosiect isadeiledd mawr yng
Nglannau'r Harbwr, ariannwyd hyn gan gyllid Ewropeaidd gydag arian cyfatebol
drwy gyllid y Cyngor. Bydd y cronfeydd sy'n weddill yn cael eu defnyddio i
setlo'r cyfrif terfynol, unwaith y cytunir arno.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 54 o becyn adroddiad yr agenda gan holi a oedd y gyllideb
o £10 mil ar gyfer adnewyddu Llyfrgell Castell-nedd yn ymwneud â'r hen lyfrgell
neu'r llyfrgell newydd. Gofynnodd yr aelodau hefyd am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r gyllideb o £10 mil ar gyfer safle gwaith Byass.
Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cyllid fod y gyllideb ar gyfer Llyfrgell Castell-nedd yn ymwneud
ag astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i'r posibilrwydd o adnewyddu hen
lyfrgell Castell-nedd. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio fod y
gyllideb ar gyfer safle gwaith Byass yn ymwneud â datblygu uwchgynllun o fewn
ardal ehangach Glannau'r Harbwr. Mae astudiaethau diwydrwydd dyladwy a
dichonoldeb yn cael eu cynnal yn yr ardal i benderfynu beth y gellir ei
gyflawni ac a oes modd cyflawni dyheadau.
Cyfeiriodd
yr aelodau at dudalen 45 o'r adroddiad a mynegwyd pryder nad oedd grantiau'n
cael eu defnyddio'n llawn mewn perthynas â Chynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer
Ysgolion.
The
Chief Finance Officer confirmed that the budget line shows a spend of 2.379m at
the end of December against a budget of 2.9m. There has been a delay in some
expenditure but it is expected that the budget will be fully utilised. The
Director of Education, Leisure and Lifelong Learning confirmed that with
reference to the Supporting Learners with Additional Learning Needs £60k spend
against the 1.3m budget, works are progressing on the provision at Blaenhonddan
and Ysgol Hendrefelin. There have been some delays between works being
completed and invoicing.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhelliad gan y Cabinet.