Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 22/02/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd Bwyllgor Craffu'r Cabinet ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Hunanasesiad 2021/2022

 

Derbyniodd Aelodau wybodaeth am hunanasesiad drafft y cyngor ar gyfer 2021/2022. Mae'n ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r hunanasesiad o fewn 4 wythnos iddo gael ei gymeradwyo yn unol â'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Soniodd yr Aelodau am faint o fanylion oedd yn yr adroddiad ac awgrymwyd y syniad o gael casgliad ar y dechrau i gael trosolwg gwell ar ddechrau adroddiadau. Dywedodd Swyddogion fod gofyniad statudol arnynt i gynnwys manylion penodol ond dywedasant y byddant yn cyflwyno fersiwn hawdd ei darllen pan fyddant yn ei gyhoeddi. Dywedodd Swyddogion hefyd y byddant yn ystyried sylwadau'r bwrdd ynglŷn â chael crynodeb ar ddechrau adroddiadau pan fyddant yn llunio asesiad 2022/23.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Sefydlu Fforwm Cyswllt mewn perthynas â Chyrchfan Antur Cwm Afan

 

Hysbyswyd yr Aelodau am gais Wildfox Resorts Afan Valley Limited, i sefydlu fforwm cysylltu â chynrychiolwyr o Wildfox Resorts Afan Valley Limited mewn perthynas â datblygu Cyrchfan Antur Cwm Afan. Prif ddiben y fforwm cyswllt yw sicrhau y gwneir yn fawr o fanteision cymdeithasol, amgylcheddol, ac economaidd Cyrchfan Antur Cwm Afan ar gyfer y cymunedau lleol, yn unol â'r adroddiad.

 

Mynegodd Aelodau bryderon yn ymwneud ag eitemau 8 a 9 o becyn agenda'r Cabinet. Nodwyd bod yr effaith ar gymuned y cwm ac effaith ar y gweithlu ar gyfer y ddau adroddiad yn manylu nad oedd unrhyw oblygiadau. Teimlai'r Aelodau y byddai effeithiau sylweddol ar y gweithlu o ran yr adroddiadau oherwydd y gefnogaeth weinyddol y byddai ei hangen gan adrannau perthnasol.

 

Roedd Aelodau hefyd yn teimlo y gallai fod effaith ar wardiau eraill a byddai ystyried cynnwys Aelodau o Gwm Afan isaf ar y pwyllgor cyswllt yn fuddiol. Esboniodd Swyddogion y byddai'n agored i Aelodau a oedd wedi'u penodi i'r fforymau priodol nodi a oes unrhyw broblemau a allai gael effeithiau ar wardiau cyfagos a gellir ailystyried y cylch gorchwyl bob amser yn y fforymau hynny.

 

Holodd yr Aelodau hefyd ynghylch y posibilrwydd o ddosbarthu cofnodion y fforwm cyswllt i'r Cadeiryddion Craffu. Dywedodd Swyddogion, gan fod y pwyllgorau cyswllt yn gyrff allanol, na fyddai'r cofnodion yn cael eu dosbarthu i holl gynrychiolwyr y cyngor. Awgrymodd Swyddogion ymhellach, fel rhan o'r blaenraglen waith craffu, fod y cyngor yn dod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr bod cadeiryddion yn cael eu diweddaru'n rheolaidd ac i geisio dod o hyd i ffyrdd o roi eitemau sefydlog ar agendâu ac ystyried y materion hynny.

 

Ystyriodd Swyddogion y pwyntiau a godwyd a dywedasant wrth edrych ar yr effeithiau ar y cwm a'r gweithlu, mai’r rheswm nad oedd unrhyw effeithiau wedi'u cofnodi ar yr adroddiad oedd oherwydd pwrpas yr adroddiad oedd manylu ar y broses sefydlu yn gyffredinol, ac roedd yn ymwneud yn benodol â'r fframwaith llywodraethu sydd wedi'i roi ar waith ynghyd â'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4