Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y Pwyllgor graffu ar
yr eitem ganlynol ar agenda'r Cabinet:
Rhaglen Strategol Gwella
Ysgolion - Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed i gymryd lle
Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r-graig a Llangiwg
Darparodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd fanylion ynghylch y cynnig ar gyfer ymgynghoriad newydd ynghylch y
cynnig i ad-drefnu ysgolion yng Nghwm Tawe; y cynnig oedd i sefydlu ysgol
cyfrwng Saesneg 3 - 11 oed â chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau
newydd i ddarparu ar gyfer disgyblion o ddalgylchoedd presennol ysgolion
cynradd yr Alltwen, Godre’r-graig a Llangiwg.
Eglurwyd bod Cabinet y
weinyddiaeth flaenorol wedi cymeradwyo'r penderfyniad blaenorol mewn perthynas
â'r mater hwn; fodd bynnag, heriwyd y penderfyniad ers hynny a chynhaliwyd
adolygiad barnwrol a chafodd y penderfyniad ei wrthdroi. Hysbyswyd yr Aelodau fod
y weinyddiaeth newydd wedi ymrwymo i adolygu'r penderfyniad a wnaed mewn
perthynas â'r cynnig i ad-drefnu ysgolion Cwm Tawe, a oedd yn ei gwneud yn
ofynnol i'r cyngor ddechrau ymgynghoriad newydd ar gyfer y cynnig.
Pe bai'r Aelodau'n
cymeradwyo'r argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, dywedodd
Swyddogion y byddent yn annog aelodau'r cymunedau sydd â diddordeb i gymryd
rhan yn yr ymgynghoriad er mwyn mynegi eu barn.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â chyfranogaeth y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles yn y broses
hon, a swyddogaeth y Cydbwyllgorau Craffu. Dywedodd y Prif Weithredwr mai mater
i'r Aelodau Craffu oedd penderfynu sut mae craffu yn cyflawni ei swyddogaethau;
trefnwyd cyfarfod gyda Chadeiryddion Craffu i'w hatgoffa o'u darpariaethau o
fewn y Cyfansoddiad, sy'n cynnwys galw cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu er
mwyn i Aelodau Etholedig eraill fod yn bresennol mewn cyfarfodydd Pwyllgor
penodol. Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael trafodaeth fanylach ag Aelodau'r
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles mewn perthynas â'r mater hwn, os oeddent
yn teimlo ei bod yn bwysig iddynt fod yn bresennol pan fydd adroddiadau yn
ymwneud â'r cynnig hwn yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol i Bwyllgor Craffu'r
Cabinet.
Holodd yr Aelodau a fyddai cyfarfodydd
cyhoeddus yn rhan o'r broses ymgynghori; soniwyd nad oedd y weinyddiaeth
flaenorol yn gallu cynnal cyfarfodydd cyhoeddus wyneb yn wyneb yn ystod yr
ymgynghoriad cychwynnol ar y cynnig hwn oherwydd pandemig COVID-19. Esboniodd
Swyddogion y byddent yn dilyn y gofynion ymgynghori yn ôl yr angen, a
chadarnhawyd y byddai elfennau o'r ymgynghoriad yn cael eu cynnal wyneb yn
wyneb â'r cyhoedd.
Gofynnwyd i Swyddogion egluro canlyniadau unrhyw newidiadau posib i'r prif gynnig, pe bai'r cyfnod ymgynghori yn mynd yn ei flaen a bod yr adborth yn rhoi rheswm da dros newid y cynnig hwnnw. Gofynnwyd hefyd, pe bai achos busnes newydd yn cael ei lunio ar gyfer unrhyw ddewisiadau amgen a allai ymddangos yn ymarferol, pa mor hir y byddai’r broses o lunio’r achos busnes yn ei gymryd a phryd y byddai cyfle arall i gyflwyno’r achos busnes hwnnw i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid. Nodwyd pe bai'r Cabinet yn penderfynu peidio â symud ymlaen â'r cynnig a ymgynghorwyd arno, tybir, bryd hynny bod opsiwn a ffefrir ar gael i'w ddilyn o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3