Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 28/07/2022 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 4)

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu

cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Ehangu Dechrau'n Deg - Cam 1

 

Ailddatganodd y Cyng. Scott Jones ei fudd a gadawodd yr ystafell ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud ag Ehangu Cam Un Dechrau'n Deg, fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Dywedodd swyddogion y byddai Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu mewn tair ardal. Dewiswyd yr ardaloedd yn seiliedig ar ddata cadarn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a hefyd ddata Castell-nedd Port Talbot ei hun am y rheini sy'n agored i niwed ac amddifadedd. Mae'r ehangiad yn fach iawn ac mae'n cael ei ymestyn i gynnwys 127 o blant ychwanegol. Gyda 32 o'r plant hynny'n rhan o'r rhaglen allgymorth.

 

Holodd yr aelodau ynghylch pa drafodaethau a pha waith a oedd wedi dechrau mewn perthynas ag ystyried yr ehangiad i'r cynllun a'i gynllunio, yn arbennig gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yr aelodau'n cydnabod y gwaith mawr y byddai angen ei wneud er mwyn hyrwyddo'r ehangiad.

 

Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru sydd wedi dweud bod bwriad i ryddhau rhagor o wybodaeth dros yr haf, cyn i gam 1 ddechrau. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer cam 2 yn mynd rhagddo yn y ffordd orau y gellir ei wneud, hyd nes y bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhyddhau gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd yr aelodau i swyddogion ystyried atodi rhestr termau briodol i adroddiadau yn y dyfodol, lle defnyddir byrfoddau technegol.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.

 

Dychwelodd Cyng. Jones i'r ystafell.

 

Defnyddio staff mewnol ar gyfer Gwasanaethau Hamdden

 

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â defnyddio staff mewnol ar gyfer y gwasanaethau hamdden, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu amserlen fanwl a'r gwahanol gamau yr oedd eu hangen ar gyfer defnyddio staff mewnol yn y gwasanaeth, a'r Bwrdd Prosiect a sefydlwyd i ymgymryd â'r dasg hon.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod cyfres o gyfarfodydd eisoes wedi’u cynnal gyda chydweithwyr Penaethiaid Gwasanaethau o gyfarwyddiaethau eraill, a chydweithwyr o Hamdden Celtic er mwyn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu rhwng y ddau sefydliad.

 

Holodd yr aelodau a oedd swyddogion yn cydweithio gyda chyfarwyddiaethau eraill i archwilio ymagwedd gyfannol at sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaeth. Er enghraifft, cysylltiadau gyda gwasanaethau iechyd meddwl a hefyd bresgripsiynu cymdeithasol â'r gwasanaeth iechyd.

 

Cadarnhawyd mai swyddogion CBSCNPT sy'n gyfrifol am y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r cyngor wedi cymryd £100,000 yn ychwanegol y flwyddyn i allu cyflawni ar ran y Bwrdd Iechyd. Cadarnhaodd swyddogion y bydd Hamdden Celtic yn dod yn rhan o'r Gwasanaethau Hamdden newydd ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo iddynt. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Hamdden sydd newydd eu ffurfio i sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu ffurfio er mwyn darparu gwasanaethau.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai cynllun busnes yn cael ei roi gerbron aelodau yn yr hydref a fydd yn manylu ar y cysylltiadau a fydd yn cael eu ffurfio.

 

Gofynnodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4