Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Ehangu Dechrau'n Deg - Cam 1
Ailddatganodd y Cyng. Scott Jones ei fudd a
gadawodd yr ystafell ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud ag
Ehangu Cam Un Dechrau'n Deg, fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd.
Dywedodd swyddogion y byddai Dechrau'n Deg yn cael
ei ehangu mewn tair ardal. Dewiswyd yr ardaloedd yn seiliedig ar ddata cadarn a
ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a hefyd ddata Castell-nedd Port Talbot ei hun
am y rheini sy'n agored i niwed ac amddifadedd. Mae'r ehangiad yn fach iawn ac mae'n
cael ei ymestyn i gynnwys 127 o blant ychwanegol. Gyda 32 o'r plant hynny'n
rhan o'r rhaglen allgymorth.
Holodd yr aelodau ynghylch pa drafodaethau a pha
waith a oedd wedi dechrau mewn perthynas ag ystyried yr ehangiad i'r cynllun a'i
gynllunio, yn arbennig gyda Llywodraeth Cymru. Roedd yr aelodau'n cydnabod y
gwaith mawr y byddai angen ei wneud er mwyn hyrwyddo'r ehangiad.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cynnal
trafodaethau â Llywodraeth Cymru sydd wedi dweud bod bwriad i ryddhau rhagor o
wybodaeth dros yr haf, cyn i gam 1 ddechrau. Mae'r gwaith cynllunio ar gyfer
cam 2 yn mynd rhagddo yn y ffordd orau y gellir ei wneud, hyd nes y bydd rhagor
o wybodaeth yn cael ei rhyddhau gan Lywodraeth Cymru.
Gofynnodd yr aelodau i swyddogion ystyried atodi
rhestr termau briodol i adroddiadau yn y dyfodol, lle defnyddir byrfoddau
technegol.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.
Dychwelodd Cyng. Jones i'r ystafell.
Defnyddio staff mewnol ar gyfer
Gwasanaethau Hamdden
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â
defnyddio staff mewnol ar gyfer y gwasanaethau hamdden, fel y manylir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr adroddiad yn darparu amserlen fanwl a'r
gwahanol gamau yr oedd eu hangen ar gyfer defnyddio staff mewnol yn y
gwasanaeth, a'r Bwrdd Prosiect a sefydlwyd i ymgymryd â'r dasg hon.
Cadarnhaodd swyddogion fod cyfres o gyfarfodydd
eisoes wedi’u cynnal gyda chydweithwyr Penaethiaid Gwasanaethau o
gyfarwyddiaethau eraill, a chydweithwyr o Hamdden Celtic er mwyn caniatáu i
wybodaeth gael ei rhannu rhwng y ddau sefydliad.
Holodd yr aelodau a oedd swyddogion yn cydweithio
gyda chyfarwyddiaethau eraill i archwilio ymagwedd gyfannol at sicrhau
cynaliadwyedd y gwasanaeth. Er enghraifft, cysylltiadau gyda gwasanaethau
iechyd meddwl a hefyd bresgripsiynu cymdeithasol â'r gwasanaeth iechyd.
Cadarnhawyd mai swyddogion CBSCNPT sy'n gyfrifol am
y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae
swyddogion yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r cyngor wedi cymryd £100,000 yn ychwanegol y flwyddyn i allu cyflawni ar
ran y Bwrdd Iechyd. Cadarnhaodd swyddogion y bydd Hamdden Celtic yn dod yn rhan
o'r Gwasanaethau Hamdden newydd ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo iddynt. Bydd
swyddogion yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Hamdden sydd newydd eu ffurfio i
sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu ffurfio er mwyn darparu gwasanaethau.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai cynllun busnes yn
cael ei roi gerbron aelodau yn yr hydref a fydd yn manylu ar y cysylltiadau a
fydd yn cael eu ffurfio.
Gofynnodd yr aelodau, dan 5.11, beth byddai'n cael
ei golli/beth na fyddai'n cael ei flaenoriaethu o ganlyniad i'r cynnydd yn y
llwyth gwaith. Mynegodd yr aelodau eu pryderon gan gwestiynu pa gamau
gweithredu a gymerwyd i sicrhau nad oes niwed i wasanaethau yn y flwyddyn
bresennol.
Dywedodd swyddogion fod ymgynghorydd allanol yn
gweithio gyda'r cyngor drwy gydol y broses drosglwyddo. Bydd ymgynghoriaeth yn
cael ei phenodi i gynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi'r cynllun busnes sydd i
ddod. Cadarnhaodd swyddogion hefyd, gan mai newydd ddechrau y mae’r broses
drosglwyddo, nad oes unrhyw feichiau penodol wedi'u nodi. Deellir bod TG ac AD
yn debygol o gronni'r symiau mwyaf o waith fel rhan o'r trosglwyddiad. Bydd
cyswllt rheolaidd yn cael ei gynnal â’r swyddogion priodol er mwyn sicrhau bod
unrhyw gynnydd yn y llwyth gwaith yn cael ei nodi ac y gellir ystyried mesurau
priodol.
Amlinellodd y swyddogion fod strategaeth gyfathrebu
wedi’i sefydlu a fydd yn cael ei chyflwyno i aelodau er gwybodaeth ym mis Medi.
Bydd Prif Weithredwr Hamdden Celtic yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr
yn fisol. Mae'r undebau hefyd yn ymwybodol o hyn. Bydd y cyfathrebu'n cael ei
arwain gan CBSCNPT.
Nododd yr aelodau y cymorth ariannol a roddwyd i
Hamdden Celtic a gofynnwyd pa gymorth parhaus a fyddai'n cael ei roi i Hamdden
Celtic nes bod y trosglwyddiad wedi ei gwblhau. Amlinellodd swyddogion y
Cytundeb Indemniad presennol i indemnio Hamdden Celtic yn erbyn unrhyw
golledion dros y cytundeb rheoli, sy'n £1.5 miliwn. Cadarnhawyd bod Hamdden
Celtic yn masnachu tua £2.5 miliwn ar hyn o bryd. Mae Hamdden Celtic wedi elwa
o gronfa colli incwm COVID Llywodraeth Cymru ac mae ganddynt gytundeb rheoli
gwerth £1.5 miliwn yn ei le. Amcangyfrifir y bydd angen i CBSCNPT indemnio
£600,000 i Hamdden Celtic y flwyddyn ariannol hon.
Mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch y bwlch
cyllido o £3.1 miliwn a nodwyd yn yr adroddiad.
Nododd yr aelodau y bydd tueddiadau o fewn iechyd a
ffitrwydd yn newid yn aml a'i bod yn bwysig cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y
duedd i sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fod yn ddeniadol i'w cleientiaid.
Cadarnhaodd swyddogion y bydd y cynllun busnes yn cynnwys syniadau sy'n nodi'r
cyfleoedd buddsoddi mwyaf masnachol a fydd yn hybu'r incwm a gynhyrchir gymaint
â phosib.
Holodd Aelodau a fyddai cyfleoedd i golli swyddi’n wirfoddol. Cadarnhaodd
swyddogion pe bai achosion o golli swydd, yn gyfreithiol byddai angen cynnig
colli swyddi’n wirfoddol yn gyntaf.
Yn dilyn trafodaeth, cynigiwyd ac eiliwyd y
diwygiad canlynol i argymhelliad 2 a gynhwyswyd yn yr adroddiad a gylchredwyd:
"Bod y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes mewn ymgynghoriad â'r
Arweinydd a'r Aelod Cabinet perthnasol yn cael awdurdod dirprwyedig i
wneud penderfyniadau cychwynnol sy'n ofynnol er mwyn cyflwyno achos busnes
llawn i'r Cabinet/Bwrdd y Cabinet ym mis Hydref/Tachwedd 2022 i gyflawni'r
gwaith o ddefnyddio staff mewnol mewn gwasanaethau hamdden erbyn 1 Ebrill 2023
(ar yr amod na fydd dirprwyaeth o'r fath yn cael ei defnyddio lle mae newid
arfaethedig i’r modd y darperir gwasanaethau a/neu gost sylweddol i ddarparu
gwasanaethau).
Yn dilyn y drafodaeth, roedd y pwyllgor o blaid y diwygiad i'w ystyried gan
y Cabinet.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet, gyda'r diwygiad wedi'i gynnwys.
Dyraniadau Ychwanegol ar gyfer
y Rhaglen Gyfalaf
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â
dyraniadau ychwanegol ar gyfer y rhaglen gyfalaf, fel y manylir o fewn yr
adroddiad a gylchredwyd.
Holodd yr aelodau pa fath o fuddsoddiadau sy'n cael
eu hystyried ac a oes unrhyw wybodaeth bellach am y lefel a'r math o fuddsoddiadau
sy'n cael eu hystyried. Cadarnhaodd swyddogion y byddai manylion o'r math yn
cael eu cyflwyno i fyrddau cabinet yn yr hydref.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr £1.5miliwn y
cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn rhan o gyllideb sylfaenol y Rhaglen Gyfalaf a
gymeradwywyd gan y cyngor. Mae'r £3.5 miliwn yn grant cyfalaf penodol untro nad
yw'n rhan o'r gyllideb gyfalaf sylfaenol, felly nid oes angen i’r cyngor ei
ystyried. Gall Swyddogion wneud argymhellion i Fyrddau'r Cabinet eu hystyried
mewn perthynas â'r cyllid hwn.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.
Gofal plant mewn Ysgolion ac
Adeiladau Addysg: Newidiadau Dros Dro i
Drefniadau Rhent Presennol
Ailddatganodd y Cyng. Scott Jones ei fudd a gadawodd
yr ystafell ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â
newidiadau dros dro i'r trefniadau rhent presennol fel y manylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Cydnabu’r aelodau fod yr adroddiad yn amlinellu'r
newidiadau dros dro, fodd bynnag nid oeddent yn amlinellu'r trefniadau
presennol sydd ar waith. Hefyd, holodd yr aelodau a oedd arolwg wedi'i gynnal
ar draws y fwrdeistref i gadarnhau pa drefniadau gofal plant yr oedd eu hangen,
neu a oedd y cynllun wedi'i bwysoli'n benodol at ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Cadarnhaodd swyddogion fod llu o drefniadau ar
waith ar draws ysgolion ar hyn o bryd, ac nad yw'r swyddogion wedi gallu cael
gafael ar ddadansoddiad manwl eto.
Roedd archwiliad digonolrwydd gofal plant wedi’i
gwblhau’n ddiweddar, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Mae'r ymgynghoriad
wedi nodi bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth Gymraeg a hefyd glybiau ar ôl
ysgol.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.
Dychwelodd y Cyng. Scott Jones i'r ystafell.
Gwasanaeth Adnewyddu ac Addasu
Tai (HRAS) - Polisi Adnewyddu Tai’r Sector Preifat
Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau yn ymwneud â
Pholisi Adnewyddu Tai y Sector Preifat fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dywedodd swyddogion y bydd y newidiadau'n cael
effaith ariannol fawr. Bydd y cyllid presennol yn cael ei ddefnyddio'n gynt,
gan y bydd rhai grantiau'n cael eu heithrio o brawf modd.
Holodd yr aelodau a oedd swyddogion yn cydweithio
gyda Tai Tarian i sicrhau bod unrhyw eitemau sy'n cael eu rhoi mewn eiddo fel
rhan o'r cynllun yn cael eu hailgylchu. Cadarnhaodd swyddogion fod y cynllun yn
gweithredu o fewn y sector preifat yn bennaf, fodd bynnag lle mae gan Tai
Tarian eitemau yn eu lle, maen nhw'n ceisio sicrhau bod pobl addas yn cael eu
gosod yn eu heiddo.
Amlinellodd y swyddogion ganlyniadau'r polisi
newydd, gan gynnwys y cynnydd tebygol mewn ceisiadau am arian, y cynnydd mewn
amser i ddarparu eitemau wedi'u hariannu, ac oedi posib wrth ryddhau cleifion o
ysbytai oherwydd eu bod yn aros am offer addas.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Rhoddodd swyddogion gyflwyniad byr i'r aelodau a
oedd yn amlinellu beth yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae'n gronfa cyfalaf
a refeniw sy'n seiliedig ar ddyraniadau lleol. Mae'r gronfa'n seiliedig ar dri
maes blaenoriaeth - cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol a phobl a
sgiliau.
Darparodd y swyddogion wybodaeth yn ymwneud â'r
meysydd a nodwyd o fewn y blaenoriaethau a hefyd linell amser a ragwelir o ran
y broses ymgeisio.
Cadarnhaodd swyddogion nad yw'r gronfa ar agor ar
gyfer prosiectau eto. Mae'r ddogfen a fydd yn cael ei chyflwyno erbyn 1 Awst,
yn ddogfen strategaeth lefel uchel.
Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan y Cabinet.
Ail-greu Ceuffos Rhodfa'r Castell
Ni chafwyd unrhyw gwestiynau .
Roedd yr aelodau’n cefnogi’r bwriad i'r cynnig gael
ei ystyried gan y Cabinet.