Craffu Cyn Penderfynu
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Ysgol Ddechreuol Cyfrwng Cymraeg - Mynachlog Nedd
Ailddatganodd y Cynghorwyr James Henton a Martyn Peters eu budd a gadawsant
y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynnig i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ym Mynachlog Nedd. Tynnodd
Swyddogion sylw at y ffaith bod pryder wedi'i godi ynghylch elfen traffig a
pharcio'r ysgol. Nodwyd bod Swyddogion yn gwneud eu gorau glas i liniaru pwysau
posib traffig neu barcio a'u bod yn ystyried mesurau y gellid eu rhoi ar waith
i liniaru hyn. Trafodwyd hefyd fod pryderon ynghylch oedran yr ysgol. Nodwyd
bod yr ysgol wedi'i chynnal a'i chadw'n dda a'i bod mewn cyflwr da iawn.
Cyfeiriodd yr Aelodau at ymateb y Swyddog ar Goed
Darcy fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith, gan
ddibynnu ar niferoedd disgyblion yn y dyfodol, fod potensial i'r disgyblion
drosglwyddo i Goed Darcy pan gaiff yr ysgol newydd ei hadeiladu neu fel arall,
os bydd y galw am addysg Gymraeg yn tyfu yn ôl y disgwyl, mae posibilrwydd y
bydd yr ysgol fwydo Gymraeg yn aros yn Sgiwen ac y gellid adeiladu ysgol
Gymraeg ychwanegol yng Nghoed Darcy. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yn bosib
yn y cyfamser i aros i'r ysgol yng Nghoed Darcy gael ei hadeiladu ac roedd hyn
yn gyfle i ganiatáu i'r cyngor sefydlu Ysgol Gymraeg mewn cyfnod byr o amser.
Roedd yr Aelodau'n falch o weld yr adroddiad ac fe
dynnon nhw sylw at y ffaith y byddai sefydlu'r ysgol yn cyfrannu at darged
Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Yn dilyn Craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-2022
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar
gyfer 2021-2022 i'r Aelodau, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Tynnodd yr Aelodau sylw at eu hawydd i ddysgu'r
Gymraeg ond nodwyd ganddynt fod hyn yn absennol o'r adroddiad a gofynnwyd a all
gwybodaeth gael ei rhannu rhwng yr aelodau ac iddi gael ei chydnabod mewn
adroddiadau yn y dyfodol. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod hyfforddiant
ar gael i'r Aelodau a byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu y tu allan
i'r cyfarfod.
Hysbyswyd Swyddogion gan yr Aelodau o bwysigrwydd y
rhestr o siaradwyr Cymraeg a oedd ar gael yn flaenorol fel rhan o'r Cyfeiriadur
Gweithwyr ar y fewnrwyd a gofynnwyd i’r swyddogion a ellid diweddaru'r
wybodaeth hon. Cadarnhaodd Swyddogion fod y rhestr o siaradwyr Cymraeg wedi'i
diweddaru a'i hadfer. Nodwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r
aelodau.
Yn dilyn y broses graffu, cytunwyd nodi'r
adroddiad.
Cyflawni Cynllun Cymorth Costau Byw Disgresiynol
Llywodraeth Cymru
Ar yr adeg hon o'r cyfarfod, cadarnhaodd y
Cadeirydd ei fuddiannau rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ynghyd â'r Aelodau a'r
Swyddogion eraill a oedd wedi datgan buddiannau rhagfarnol.
Ymgymerodd
Chris James â'r rôl fel Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon.
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau am y meini prawf ar gyfer darparu elfen ddisgresiynol cynllun cymorth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3