Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr

Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Ysgol Ddechreuol Cyfrwng Cymraeg - Mynachlog Nedd

 

Ailddatganodd y Cynghorwyr James Henton a Martyn Peters eu budd a gadawsant y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.

 

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ym Mynachlog Nedd. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod pryder wedi'i godi ynghylch elfen traffig a pharcio'r ysgol. Nodwyd bod Swyddogion yn gwneud eu gorau glas i liniaru pwysau posib traffig neu barcio a'u bod yn ystyried mesurau y gellid eu rhoi ar waith i liniaru hyn. Trafodwyd hefyd fod pryderon ynghylch oedran yr ysgol. Nodwyd bod yr ysgol wedi'i chynnal a'i chadw'n dda a'i bod mewn cyflwr da iawn.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at ymateb y Swyddog ar Goed Darcy fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith, gan ddibynnu ar niferoedd disgyblion yn y dyfodol, fod potensial i'r disgyblion drosglwyddo i Goed Darcy pan gaiff yr ysgol newydd ei hadeiladu neu fel arall, os bydd y galw am addysg Gymraeg yn tyfu yn ôl y disgwyl, mae posibilrwydd y bydd yr ysgol fwydo Gymraeg yn aros yn Sgiwen ac y gellid adeiladu ysgol Gymraeg ychwanegol yng Nghoed Darcy. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yn bosib yn y cyfamser i aros i'r ysgol yng Nghoed Darcy gael ei hadeiladu ac roedd hyn yn gyfle i ganiatáu i'r cyngor sefydlu Ysgol Gymraeg mewn cyfnod byr o amser.

 

Roedd yr Aelodau'n falch o weld yr adroddiad ac fe dynnon nhw sylw at y ffaith y byddai sefydlu'r ysgol yn cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Yn dilyn Craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021-2022

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2021-2022 i'r Aelodau, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at eu hawydd i ddysgu'r Gymraeg ond nodwyd ganddynt fod hyn yn absennol o'r adroddiad a gofynnwyd a all gwybodaeth gael ei rhannu rhwng yr aelodau ac iddi gael ei chydnabod mewn adroddiadau yn y dyfodol. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod hyfforddiant ar gael i'r Aelodau a byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu y tu allan i'r cyfarfod.

 

Hysbyswyd Swyddogion gan yr Aelodau o bwysigrwydd y rhestr o siaradwyr Cymraeg a oedd ar gael yn flaenorol fel rhan o'r Cyfeiriadur Gweithwyr ar y fewnrwyd a gofynnwyd i’r swyddogion a ellid diweddaru'r wybodaeth hon. Cadarnhaodd Swyddogion fod y rhestr o siaradwyr Cymraeg wedi'i diweddaru a'i hadfer. Nodwyd y byddai'r wybodaeth hon yn cael ei dosbarthu i'r aelodau.

 

Yn dilyn y broses graffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

Cyflawni Cynllun Cymorth Costau Byw Disgresiynol Llywodraeth Cymru

 

Ar yr adeg hon o'r cyfarfod, cadarnhaodd y Cadeirydd ei fuddiannau rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ynghyd â'r Aelodau a'r Swyddogion eraill a oedd wedi datgan buddiannau rhagfarnol.

 

 Ymgymerodd Chris James â'r rôl fel Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon.

 

Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau am y meini prawf ar gyfer darparu elfen ddisgresiynol cynllun cymorth costau byw Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y posibilrwydd na fyddai angen i aelwydydd ym mandiau treth cyngor E i F gael taliad ychwanegol o £150 a gofynnodd a fyddai cael yr aelwydydd ym mandiau treth cyngor E i F i wneud cais am yr arian yn opsiwn yn hytrach na'u bod yn ei dderbyn yn awtomatig. Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith na fyddai'r agweddau ymarferol ynghylch yr awgrym yn addas i'r diben ac esboniwyd y byddai llythyr yn cael ei ddosbarthu’n rhoi gwybodaeth am yr arian ychwanegol. Awgrymodd y swyddogion hefyd y gellid cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y llythyr i hysbysu Aelwydydd am sut i ddychwelyd yr arian pe dymunent.

 

Eglurwyd na fyddai perchnogion ail gartrefi’n gymwys dan y prif gynllun ac na fyddent yn derbyn taliad.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Dychwelodd yr Aelodau a'r Swyddogion a ddatganodd ar ddechrau'r cyfarfod i'r cyfarfod.

 

Dychwelodd y Cyng. Phil Rogers i'r cyfarfod fel Cadeirydd.

 

Cynllun Cymorth Caledi Castell-nedd Port Talbot

 

Atgoffodd Swyddogion yr Aelodau fod y Cabinet, ym mis Chwefror 2022, wedi rhoi £2m o’r neilltu i’r gronfa cymorth caledi ac wedi gofyn i'r Prif Swyddog Cyllid ddatblygu cynllun cymorth caledi. Nodwyd mai'r cynllun oedd targedu'r rheini sydd â'r angen mwyaf.

 

Tynnodd Swyddogion sylw'r Aelodau at y ffaith bod dau opsiwn i ddewis ohonynt yn yr adroddiad, a'r opsiwn cyntaf oedd taliad 'arian parod' ychwanegol untro o £100 i aelwydydd sy'n derbyn cymorth treth y cyngor. Yr ail opsiwn yw darparu cynllun cymorth caledi gan ddefnyddio 'Cymru Gynnes' yn asiantaeth bartner. Cadarnhaodd Swyddogion mai'r opsiwn y byddent yn ei argymell i'r Aelodau fyddai opsiwn dau. Nodwyd bod Katie Cook o Cymru Gynnes yn bresennol i roi cyflwyniad o'r gwasanaeth y byddent yn ei gynnig.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai'r cynllun yn darparu ar gyfer y rheini mewn angen, yn benodol ynghylch materion fel ffenestri o ansawdd gwael neu ffenestri gwydriad sengl. Tynnodd Cymru Gynnes sylw at y ffaith bod yr arian ar gael i'r rheini sydd â'r angen mwyaf a phe bai materion yn ymwneud â ffenestri wedi torri neu bryderon ynghylch ailosod gwydr ffenestri, yna byddai hyn yn gofyn am drafodaethau pellach i sicrhau gwerth am arian. Fodd bynnag, pe bai'r mater yn ymwneud â sicrhau bod y tŷ’n fwy effeithlon a chynhesach, yna byddai'n rhywbeth y byddai Cymru Gynnes yn ystyried ei wneud.

 

Gofynnwyd am eglurder ynghylch pwy fyddai'n gyfrifol am y cynllun hwn a pha adrannau o'r cyngor fyddai'n gyfrifol amdano. Esboniodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth i gytuno ar y cynllun yn y lle cyntaf. Yna byddai'n ofynnol i Swyddogion gyfrifo logisteg y cynllun a ble y byddai'n eistedd o fewn yr awdurdod, a bydd yn hysbysu'r aelodau yn ystod cyfnod yr hydref.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch y rhesymau cychwynnol dros y cynllun hwn, a nodwyd, pan gyflwynwyd yr awgrym o Gynllun Cymorth Caledi i'r aelodau ym mis Chwefror, mai ei ddiben oedd rhoi cymorth i bawb mewn angen oherwydd costau byw. Amlygwyd bod y cynllun hwn yn rhoi pwyslais ar dlodi tanwydd yn hytrach na’r broblem costau byw. Cadarnhaodd Swyddogion fod llwybrau eraill ar gael i sicrhau bod y rheini y mae angen cymorth arnynt mewn meysydd eraill fel costau byw ar gael. Sicrhawyd yr Aelodau hefyd fod cyfathrebu'n cael ei ddarparu i'r bobl hynny ynghylch y cymorth hwn. Nodwyd y byddai Swyddogion yn rhannu'r wybodaeth â chynghorwyr mewn perthynas â'r cymorth sydd ar gael ynghylch costau byw.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai'n ofynnol cyflwyno i dendr. Nodwyd bod y Gwasanaethau Cyfreithiol wedi rhoi cyngor ar y pwnc hwn ac nad oedd angen ymarfer tendro.

 

Trafodwyd mater preswylwyr mewn llety rhent a gofynnodd yr aelodau a fyddai'r preswylwyr hynny'n gymwys i gael cymorth pe na bai'r landlordiaid yn ei ddarparu. Eglurodd Cymru Gynnes y byddai croeso i breswylwyr mewn llety rhent gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan Cymru Gynnes heb gymryd y prif gyfrifoldeb oddi wrth y landlord.

 

Yn dilyn gwaith craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o gynnig opsiwn 2 yn yr adroddiad a ddosbarthwyd i'w ystyried gan y Cabinet.