Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 21/03/2022 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 2)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Model Gwasanaeth Arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a Desgiau Arian Parod y Ganolfan Ddinesig

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o fodel gwasanaeth arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a'r Desgiau Arian Parod ar gyfer pan fydd yr adeiladau'n ailagor i'r cyhoedd.

Tynnodd y Prif Swyddog Digidol sylw at y ffaith bod y Canolfannau Dinesig wedi'u cau ers dechrau'r pandemig, a ddaeth â newid mawr i'r ffordd roedd gwasanaethau'r cyngor yn gweithredu ac yn cael eu darparu; roedd gan y cyngor fwy o bresenoldeb ar-lein, ac roedd nifer mawr o bobl wedi defnyddio'r gwasanaethau a ddarparwyd ar-lein. Nodwyd bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi dechrau llacio, ac roedd y cyngor bellach mewn sefyllfa i ddechrau ystyried sut y gellid ailagor y Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y model yn disgrifio'r modd y bwriedid gweithredu'r Gwasanaethau Cwsmeriaid wrth symud ymlaen o ran ymholiadau wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynlluniau i wella rhai o'r gwasanaethau digidol yn y meysydd Gwasanaethau Cwsmeriaid; bydd hyn yn caniatáu i aelodau'r cyhoedd, nad oedd ganddynt y dechnoleg addas gartref, gael mynediad at rai o wasanaethau ar-lein y cyngor.

Dywedwyd bod cynlluniau ar y cyd i ddechrau ailagor Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2022; bydd hyn yn cyd-fynd â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a chynhelir yr asesiadau risg priodol. 

Cododd yr Aelodau bryderon ynglŷn â chau'r desgiau arian parod, gan dynnu sylw at y ffaith y gall annog y cyhoedd i beidio ag ymweld â'r Canolfannau Dinesig, yn ogystal â'r posibilrwydd o gael effaith ar nifer y bobl sy'n ymweld â chanolau trefi. Ychwanegodd yr Aelodau fod rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn hanfodol, ac y dylent aros fel rhan o'r model gwasanaeth. Esboniodd swyddogion fod y desgiau arian parod wedi bod ar gau ers tua dwy flynedd, a bod y cyngor wedi rhoi dulliau amgen o ddarpariaeth ar waith; er enghraifft, gallai preswylwyr ddefnyddio'u swyddfeydd post lleol yn eu canolau trefi eu hunain a'u cymunedau lleol i dalu eu biliau. Nodwyd, wrth ailagor yr adeiladau, fod yn rhaid i Swyddogion gofio'r ffaith, er na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar waith, fod angen i'r adeiladau weithredu ar sail asesiad risg o hyd.

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai gwahanol gamau i ailagor yr adeiladau; hwn oedd cam cyntaf ailagor ar gyfer y cyfamser. Soniwyd y gallai Swyddogion fonitro effaith a'r galw am ddesgiau arian parod yn y cam hwn; a phe bai'r galw yno, byddai Swyddogion yn meddwl am sut y gellid eu hailsefydlu.

Cynigiodd yr Aelodau y byddai'n fwy buddiol ailsefydlu'r gwasanaeth desg arian parod yng ngham cyntaf ailagor yr adeiladau, gan y byddai hyn yn caniatáu i'r tîm gasglu'r wybodaeth a'r data sydd eu hangen i fonitro'r defnydd ac i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.

Mewn perthynas ag ymholiadau cyffredinol, nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y bydd cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at y sianeli cyswllt sydd ar gael ar gyfer y meysydd gwasanaeth perthnasol; ac os  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2