Mater - cyfarfodydd

Craffu Cyn Penderfynu

Cyfarfod: 21/05/2020 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 2)

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019/2020

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y ffocws i bwyllgorau craffu sicrhau eu bod yn craffu ar drefniadau cydweithio a rhanbarthol penodol y manylir arnynt yn y datganiad, ond teimlai'r aelodau fod angen ystyried hyn yn ehangach, megis caffael a gwasanaethau a rennir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Roedd yr Aelodau'n pryderu ynghylch sut y gall y cyngor gyflawni'r gwaith gwella a gynlluniwyd ar gyfer 2020-21 yn effeithiol oherwydd effaith ddiweddar pandemig Coronafeirws. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y meysydd i'w gwella'n dangos asesiad cywir o'r sefyllfa cyn pandemig COVID-19 ac mae'r adroddiad yn nodi manylion y blaenoriaethau gwella y byddai angen eu hadolygu ymhellach yn ystod cam adfer y pandemig. Yn dilyn hyn, gofynnodd yr aelodau i'r Cabinet ystyried diwygio'r trydydd argymhelliad a nodir yn yr adroddiad, er mwyn ystyried adolygiad cynnar a brys o'r amcanion o fewn y gwaith gwella llywodraethu corfforaethol, oherwydd effaith COVID-19.

Yn dilyn craffu, cytunwyd y dylid gofyn i'r Cabinet ystyried yr argymhellion canlynol:

1.   Bydd yr aelodau'n nodi'r cynnydd a wnaed ar y gwaith gwella llywodraethu corfforaethol a wnaed yn ystod 2019-2020

2.   Cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-2020 yn Atodiad 1.

3.   Cymeradwyo'r gwaith gwella o ran llywodraethu corfforaethol arfaethedig sydd i'w wneud yn ystod 2020-2021, yn amodol ar adolygiad cynnar a brys o'r amcanion, oherwydd effaith pandemig COVID-19.

 

Alldro Cyfalaf/Refeniw 2019-20

Dewisodd yr aelodau drafod yr adroddiadau Alldro Cyfalaf a Refeniw fel un eitem. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid drosolwg cryno o'r adroddiadau. Holwyd a fyddai angen ailystyried y gyllideb oherwydd yr effaith y gallai achosion COVID-19 fod wedi'i chael ar y gyllideb. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai gwybodaeth yn ymwneud â COVID-19 yn cael ei chyflwyno'n ddiweddarach gan roi cyfle i aelodau graffu ymhellach ar yr elfen hon.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy

Ystyriwyd yr ymatebion a gafwyd yn dilyn ymgynghoriad ar y Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy Ddrafft. Canmolodd yr aelodau nifer yr ymatebion cyhoeddus a roddwyd i'r ymgynghoriad.

Darparwyd eglurder ynghylch lansio'r Panel Dinasyddion a'r cais am Gynulliad Dinasyddion. Nododd yr aelodau fod y Panel Dinasyddion wedi lansio ym mis Ionawr 2020; Cofrestrodd 500 o bobl i gymryd rhan yn y panel a byddai'n ofynnol i wneud ymarfer cwmpasu i ystyried yr opsiynau gorau o ran cynnwys y cyhoedd.

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch effeithiau annisgwyl pandemig COVID-19, megis lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd aer. Anogodd yr aelodau'r Awdurdodau Lleol a Llywodraethau i ystyried y cysyniad o Fargen Werdd Newydd fel rhan o adferiad economaidd, drwy ddysgu o'r newid hwn a thrwy beidio â dychwelyd at fusnes fel arfer.

Rhoddwyd sicrwydd ynghylch datblygu'r naratif a'r brandio y comisiynwyd 'Heavenly' i ymgymryd ag ef. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai ystyriaeth ofalus ynghylch cyfieithu acronymau i'r Gymraeg er mwyn sicrhau nad cyfieithiad uniongyrchol yn unig ydyw ond bod yr un ystyr yn cael ei chyfleu.

Yn dilyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2