Mater - cyfarfodydd

To select appropriate items from the Cabinet (Finance) Sub Committee (Cabinet Finance Sub Committee reports enclosed for Scrutiny Members)

Cyfarfod: 30/10/2019 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet (Eitem 3)

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20

 

Holodd aelodau ynghylch y gorwariant yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, yn enwedig y rheswm pam mae'n rhaid cludo gwastraff pren i Ddyfnaint i'w ailgylchu. Esboniodd swyddogion mai'r rheswm dros hyn oedd oherwydd bod gan Ddyfnaint fwy o le i ailgylchu pren, a fyddai'n cyfrannu'n gadarnhaol at dargedau ailgylchu Castell-nedd Port Talbot. Roedd swyddogion yn yr is-adran amgylchedd yn gweithio gydag Aelod y Cabinet i leihau'r gwariant ar ailgylchu wrth barhau i gynyddu'r swm sy'n cael ei ailgylchu.

 

Trafodwyd tanwariant a gorwariant yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai. Nodwyd bod cael gwared ar rai o adolygiadau Llywodraeth Cymru wedi arwain at gynnal adolygiadau annibynnol. Roedd rhai o ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u teuluoedd wedi arfer â phecynnau gofal penodol, ac i ddechrau, nid oeddent bob tro yn gefnogol o newid y rhain.

 

Esboniodd swyddogion fod salwch a gwyliau banc wedi rhoi llawer o bwysau ar lwythi gwaith yn y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu. Cafodd casgliadau sbwriel presennol eu hailystyried, a threfnwyd i gwtogi'r gyllideb gwastraff ar gyfer 2020/21.

 

Mynediad i Gyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD:    Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) Deddf 

                                     Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitem fusnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Trafododd yr aelodau y pwysau cyllidebol presennol mewn perthynas ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Henadur Davies.

 

Ailddechreuwyd y cyfarfod mewn sesiwn agored.

 

Roedd meysydd eraill o'r drafodaeth yn cynnwys:

 

·                    Sefyllfa'r arian wrth gefn

·                    Y Gronfa Gofal Canolraddol - 'Y Prosiect Esgeulustod'

·                    Lleoliadau y tu allan i'r sir

·                    Gostyngiad yn nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG).

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

 

Monitro Rheolaeth y Trysorlys 2019-20

 

Trafodwyd buddsoddiad gan y cyngor, a nododd yr aelodau er bod gan Loegr Bwerau Cymhwysedd Cyffredinol sy'n ei galluogi i fuddsoddi mewn unrhyw brosiect y craffwyd arno, nid oes gan Gymru'r pwerau hyn. Mae hyn yn golygu bod y broses buddsoddi mewn ardaloedd megis canolfannau siopa neu gelf, er enghraifft, yn anos i gynghorau yng Nghymru.

 

Er bod aelodau'n cefnogi buddsoddiadau sylweddol yn gyffredinol, roedd y risgiau presennol a oedd ynghlwm â'r prosiect yn rhy sylweddol, yn ogystal â'r diffyg Pwerau Cymhwysedd Cyffredinol, a fyddai'n cael eu cynnwys wrth gyflwyno'r Ddeddf Llywodraeth Leol newydd o bosib. Ar hyn o bryd mae angen i'r cyngor ddibynnu ar y pwerau lles cyffredinol sy'n bodoli o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

Trafodwyd caffael darnau o gelf. Yn ogystal â'r angen am gyfraniad yr archwilwyr a chynhyrchu achos busnes llawn, pwysleisiodd swyddogion yr angen i geisio cael enillion ar fuddsoddiadau sy'n sail i'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019: Adroddiad Blynyddol Drafft 2018-2019 ac Estyn Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2015-2019 tan fis Ebrill 2020

 

Trafododd yr aelodau y cynnydd a wnaed dros y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3