Craffu Cyn Penderfynu
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda Bwrdd y Cabinet:
Dangosyddion Perfformiad Allweddol Chwarter 1
Holodd yr aelodau ynghylch y cynnydd yn nifer y
galwadau Saesneg i'r Ganolfan Gyswllt sy'n cael eu gadael, a nodwyd bod nifer o
strategaethau ar waith er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. Roedd hyn yn
cynnwys cyflogi 6 o brentisiaid modern newydd yn ystod y 12 mis diwethaf â
sgiliau trosglwyddadwy ar draws y ganolfan gyswllt a siopau dan yr unto.
Ceisiodd aelodau'r bwrdd sicrwydd y rhoddwyd
mesurau priodol ar waith er mwyn sicrhau hyblygrwydd, wrth gyfeirio at CP/101 -
CS/002a (gwasanaethau cwsmeriaid - amser cyfartalog (eiliadau) i ateb galwadau
ffôn yn Gymraeg). Nodwyd y cafwyd sawl ymdrech i recriwtio siaradwyr Cymraeg
addas er mwyn cymryd lle'r rhai a gollwyd trwy golledion naturiol. Yn ogystal â
hynny, roedd 50% yn llai o staff yn y gwasanaeth nac yn y blynyddoedd
blaenorol.
Rhagwelwyd y byddai'r gwasanaeth llais a theleffoni
newydd sydd wedi'i gysylltu â phrif rif y cyngor yn awtomeiddio canran o
ymatebion i alwadau, ac y byddai hyn yn helpu i leihau'r amser cyfartalog a
gymerwyd i ateb galwadau a lleihau faint o staff y ganolfan gyswllt y byddai eu
hangen i gyfeirio galwadau. Roedd gwasanaethau eraill y cyngor yn mynd ar-lein,
a fyddai'n rhoi rhagor o amser i weithwyr siarad â galwyr gydag ymholiadau mwy
cymhleth.
Roedd gan yr aelodau ddiddordeb mewn derbyn rhagor
o wybodaeth am ymholiadau cyffredin i'r ganolfan gyswllt a'r siopau dan yr
unto, er enghraifft cardiau bws a bathodynnau glas i'r anabl.
Trafodwyd CP/015 (canran yr ysgolion sydd wedi
mabwysiadu rhaglenni addas i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin
domestig a thrais rhywiol) yn sgîl y statws perfformiad 'coch'
(coch/ambr/gwyrdd). Roedd swyddogion y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes (AHGDO) yn gweithio gydag ysgolion a'r gwasanaeth ieuenctid i roi
dulliau cefnogi yn eu lle. Byddai Cyfarwyddwr AHGDO yn gweithio gyda LLAN (Grŵp
Penaethiaid Ysgolion Cynradd) a NASH (Cymdeithas Genedlaethol Penaethiaid
Uwchradd) er mwyn i ysgolion allu nodi pan fydd problem.
Trafododd aelodau ynghylch a roddir rhifau
cyfeirio/digwyddiad i alwyr er mwyn iddynt allu cadw cofnod o ymholiad o'r
dechrau tan y diwedd. Gofynnodd y swyddogion i'r aelodau nodi unrhyw
enghreifftiau penodol o ymholiadau gan alwyr nad oeddent yn teimlo yr aethpwyd
ar eu trywydd nes cael canlyniad derbyniol.
Roedd aelodau'n falch o nodi y cafwyd lleihad yn
nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch fesul gweithiwr, o'i gymharu
â'r un chwarter y llynedd.
Er eu bod wedi ceisio gwneud gwasanaethau ar-lein
yn haws i'r cyhoedd eu defnyddio, mae cyfathrebu wyneb yn wyneb yn parhau i fod
yn bwysig. Enghraifft o'r angen am gyfathrebiad wyneb yn wyneb yw'r bobl hŷn
ac anabl niferus na allant ailgofrestru ar gyfer eu cardiau bws ar-lein -
menter gan Trafnidiaeth Cymru.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol
2018-2022
Holodd aelodau ynghylch ystyr y term 'tai fforddiadwy' a nodwyd bod hyn yn cyfeirio at ddiffiniad Llywodraeth Cymru fel ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2