Gofynnodd
yr aelodau, mewn perthynas â'r amcangyfrif salwch ar dudalen 179, a yw'n
seiliedig ar lefelau salwch presennol.
Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio fod amcangyfrif
salwch o 10 niwrnod wedi'i ddefnyddio fesul swydd CALl (cyfwerth ag amser
llawn), yn unol â dull y flwyddyn flaenorol. Mae gan y tîm Archwilio Mewnol
7.86 swydd CALl. Mae'r dull yn gadarn ac yn rhan o drefniadau wrth gefn y cynllun. Mae trefniadau wrth gefn ehangach yn
y cynllun, er enghraifft ar gyfer rheoli swyddi gwag. Os oes absenoldeb salwch neu drosiant sylweddol yn y tîm, mae opsiwn i gomisiynu diwrnodau (TGCh neu
archwiliad gweithredol) os oes angen a phan fo'n briodol.
Soniodd yr aelodau y byddai'n ddefnyddiol pe baent
wedi deall rhai o'r mapiau a gafodd eu cynnwys yn y cynlluniau.
Diolchodd y Rheolwr Archwilio i'r aelodau am eu
hadborth. Ar
gyfer yr ymarfer cynllunio sy'n seiliedig ar risgiau yn 25/26, tynnodd y
swyddogion sylw at y ffaith bod cyfarfod wedi'i gynnig a'i gynnal â’r Cadeirydd a'r
Is-gadeirydd i drafod themâu risg, anghenion archwilio a ffrydiau sicrwydd
ehangach. Esboniodd y swyddogion y bydd y dull yn cael ei ddiweddaru ar gyfer
26/27 ac y bydd yn cynnwys cynnig gweithdy cynllunio gwaith archwilio sy’n
seiliedig ar risgiau gyda'r pwyllgor. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddull
cynllunio gwaith archwilio sy'n seiliedig ar risgiau a mapio sicrwydd, a barn y pwyllgor am risgiau allweddol i'w
hystyried.
Tynnodd yr aelodau sylw at fwlch amseru rhwng
cymeradwyo'r cynllun gan yr uwch-dîm arweinyddiaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnodd yr aelodau a yw hynny'n achosi problem o
ran cyflawni ac a yw amser y cyfarfod yn llai na delfrydol.
Cadarnhaodd
y Rheolwr Archwilio nad yw amseriad cadarnhau a chymeradwyo wedi effeithio ar
gyflawni na blaenoriaethu materion archwilio yn ystod deufis cyntaf 25/26.
Esboniodd y swyddogion nad yw gwaith archwilio ac ymchwilio yn cyd-fynd yn llawn â dyddiadau dechrau/gorffen y flwyddyn archwilio ac y
bydd rhai gweithgareddau'n parhau ar ôl diwedd y flwyddyn. Mae'r tîm Archwilio
Mewnol wedi blaenoriaethu gwaith cario ymlaen 2024/25 i'w alluogi i gael ei
gwblhau cyn gynted â phosib yn 2025/26. Ochr yn ochr â gweithgareddau cario ymlaen, esboniodd y
swyddogion fod cytundebau lefel gwasanaeth ar waith ar gyfer nifer
o ffrydiau gwaith. Er enghraifft, mae cylch archwilio tair blynedd ar waith ar
gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Mae cytundebau lefel gwasanaeth
ac archwiliadau ac ymchwiliadau cario ymlaen wedi'u blaenoriaethu hyd yn hyn yn
2025/26.
Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio mai’r targed ar
gyfer cymeradwyo cynllun 26/27 gan y pwyllgor fydd mis Mawrth 2026.
Gofynnodd yr aelodau am wybodaeth am y gwaith profi
credydwyr misol. Esboniodd y swyddogion y sefyllfa hanesyddol.
Digwyddodd yr adolygiad o gredydwyr yn fisol hyd at 24/25 ac roedd yn y cynllun
oherwydd maes risg a amlygwyd gan y Rheolwr Archwilio blaenorol. Ar gyfer
25/26, mae’r adolygiad o gredydwyr yn lleihau'n sylweddol a bydd yn targedu
rheolaethau cynllun peilot credydwyr y cyngor yn unig. O 26/27, dylai thema'r
gweithgaredd ddeillio o'r cynllun.
Gofynnwyd i'r aelodau a yw swyddogion yn datblygu
cwmpas archwilio.
Soniodd y swyddogion fod ganddynt gwmpas archwilio
ar hyn o bryd ac y byddent yn cyflwyno'r fersiwn ddiweddaraf i'r gweithdy
cynllunio gwaith archwilio sy’n seiliedig ar risgiau ar gyfer 26/27. Esboniodd
y swyddogion mai cwmpas archwilio yw'r amrywiaeth o weithgareddau archwilio
posib y gellid eu cwblhau yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.
PENDERFYNWYD:
Bod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n cymeradwyo Cynllun Archwilio Mewnol Drafft
2025/26 yn Atodiad 1.