Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yr asesiadau effaith
integredig a'r asesiadau risg, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae'r Aelodau'n cymeradwyo cyhoeddi cynnig
yn statudol i gau'r ddarpariaeth arbenigol ar gyfer y ganolfan cefnogi dysgu
arbenigol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd sydd â nam ar eu golwg yn Ysgol
Gyfun Cefn Saeson.
Rhesymau dros y penderfyniad arfaethedig:
Mae
angen y penderfyniad hwn i gydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad ffurfiol a
osodir ar y Cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a deddfwriaeth berthnasol.
Mae hysbysiad statudol drafft ynghlwm yn atodiad D. Bydd rhoi'r cynnig ar waith
yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial
pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i
sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn unol â'r angen am
leoedd arbenigol yn y Fwrdeistref Sirol.
Rhoi'r penderfyniad ar waith:
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau