Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, mae'r Aelodau'n
cymeradwyo contract tair blynedd newydd trwy ddyfarniad uniongyrchol gydag
Alcium Software Limited ar gyfer parhau i ddarparu eu system Rheoli
Cysylltiadau Cwsmeriaid Evolutive.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Mae'r
rhesymau dros yr argymhelliad fel a ganlyn.
•
Mae'r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn rhan
annatod o gyflawni gweithgarwch cyfredol a chynlluniedig, gan gynnwys rhaglenni
a ariennir yn allanol.
•
Nid yw amserlenni cyflenwi, e.e. cronfeydd grant Tata, yn
caniatáu i system amgen gael ei hystyried a'i chaffael.
•
Mae cyllid allanol ar gael i dalu'r costau os caiff ei
gwblhau erbyn mis Chwefror 2025.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.