Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr bwysigrwydd y tri maes
gwasanaeth wrth ategu'r Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig bod y cynlluniau
cyflawni ar waith ac i aelodau ddeall a gweld sut mae timau'n llwyddo i
gyflawni yn erbyn y cynlluniau hynny.
Croesawodd yr aelodau fanylion y blaenoriaethau a'r
naratif ynghylch y rhain a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn eu herbyn, a
nodir yn yr adroddiad. O ran cyflwyno'r adroddiad, lle nodir mesurau
perfformiad penodol, crybwyllir eu bod ar y trywydd iawn. Fodd bynnag, nid yw'r
targed wedi'i nodi yn yr adroddiad. Mae peth o'r naratif yn nodi'r targedau, ac
mae hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld lle mae rhywbeth ar y trywydd iawn. Mae
rhai o'r eitemau'n cael eu cyflwyno fel data, heb darged, ond crybwyllir eu bod
ar y trywydd iawn. Mynegodd yr aelodau eu dryswch ynghylch eitemau sy'n cael eu
nodi'n wyrdd er bod y data'n cael ei gyflwyno at ddibenion monitro'n unig.
Nododd swyddogion y sylwadau, gan dderbyn bod
gwaith i'w wneud o ran cyflwyno data mesuradwy ac ansoddol yn yr adroddiadau
monitro.
Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r
adroddiad.