Mater - penderfyniadau

Corporate Plan Annual Report 2023-2024

06/02/2025 - Corporate Plan Annual Report 2023-2024

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a amlinellwyd ym mhecyn yr agenda.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryder fod rhai o'r eitemau'n awgrymu eu bod wedi cynyddu neu eu bod yn wyrdd, er nad oedd unrhyw fesur newydd wedi cael ei nodi.

 

Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth yn deillio o'r cyfarwyddiaethau unigol ac y byddent yn cysylltu eto i gadarnhau hynny. O ran eitemau a nodwyd yn wyrdd lle na nodwyd mesur newydd, cadarnhaodd swyddogion fod hyn yn dangos cynnydd yn unig. Fodd bynnag, gwnaethant dderbyn barn yr aelodau ynglŷn â hyn a byddent yn ei hystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau'r adroddiad.