Rhoddodd Swyddogion ddatganiad
blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru am y flwyddyn a ddaeth i
ben yn 2023/24 i'r Cyd-bwyllgor.
Eglurwyd nad oedd yn ofynnol i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gwblhau datganiad llawn o gyfrifon
oherwydd swm y trosiant; os oedd trosiant yn is na £2.5m, nid oedd yn ofynnol
cyflwyno datganiad llawn o gyfrifon.
Cafodd y Pwyllgor ei atgoffa
am y gyllideb a osodwyd ym mis Ionawr 2023 (£617.7k); roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn crynhoi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd
Swyddogion fod y gwariant yn ystod y flwyddyn yn £327.2k; roedd Llywodraeth
Cymru wedi darparu £124.1k mewn perthynas â'r grant trafnidiaeth, ac roedd pob
un o'r pedwar Awdurdod Lleol cyfansoddol wedi darparu
ardoll o £617.7k.
Amlygwyd bod yr Alldro, y
manylir arno yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn dangos tanwariant o
£458.7k yn erbyn y gyllideb, gyda'r balans yn cael ei drosglwyddo i'r cronfeydd
wrth gefn; roedd hyn yn bennaf oherwydd derbyn y grant gan Lywodraeth Cymru,
a'r ffaith bod yr Is-bwyllgorau wedi tanwario. Felly, eglurwyd mai £843,5k oedd
cyfanswm y balans a oedd yn cael ei drosglwyddo mewn cronfeydd wrth gefn.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
yr adroddiadau amrywiol a oedd yn rhan o'r broses hon, gan gynnwys datganiad
llywodraethu blynyddol ac adolygiad archwilio mewnol; cadarnhawyd nad oedd yr
adolygiad archwilio mewnol wedi tynnu sylw at unrhyw broblemau. Rhoddwyd gwybod
i'r aelodau fod archwiliad allanol hefyd wedi adolygu'r datganiad, a bod
tystysgrif archwilio wedi'i chyflwyno; bydd y dystysgrif yn cael ei llofnodi yn
ddiweddarach yn yr wythnos gan yr Archwilydd Cyffredinol, yn amodol ar
gymeradwyaeth yn y cyfarfod hwn.
Amlygwyd bod y Swyddog Adran
151 wedi derbyn llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol, a oedd yn cadarnhau ei
fod wedi cwblhau ei archwiliad; darllenwyd cynnwys y llythyr i'r Pwyllgor.
Cyfeiriwyd at Gylch Gorchwyl
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a nodwyd bod hawl gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio i dderbyn a chymeradwyo'r Datganiad Blynyddol; fodd
bynnag, roedd yr adroddiad gerbron y Pwyllgor hwn oherwydd na fyddai'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn cwrdd tan fis Tachwedd 2024. Eglurwyd bod
Swyddogion o'r farn ei bod yn hanfodol llofnodi'r cyfrifon a chau'r archwiliad
mewn modd amserol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Ffurflen Flynyddol Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru am y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2023/24.