Ailadroddodd y Cynghorydd S Jones ei fudd, a
gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw
dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig ac ar ôl ei gymeradwyo yng
nghyfarfod y Panel Cyllid a gynhaliwyd ar 29 Awst, argymhellir y canlynol:
· Bod aelodau'n cytuno ar
yr argymhelliad i gymeradwyo'r prosiectau canlynol, y mae aelodau'n ymwneud â
nhw o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Castell-nedd Port Talbot drwy'r
Gronfa Gwella Cyfleusterau Cymunedol, gan ragdybio eu bod wedi'u cymeradwyo yng
nghyfarfod y Panel Cyllid a gynhaliwyd ar 29 Awst:
1) Clwb Pêl-droed
Croeserw – Gwelliannau ffyrdd/ailwynebu
2) Clwb Rygbi
Aberavon Greenstars – Gosod paneli solar, cam 2
3) Canolfan
Ymgysylltu Cymunedol Cwmafan – Ailwampio'r gegin
Rhesymau
dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Galluogi Cyngor
Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU
ar waith a rhoi gwybod i ymgeiswyr am y penderfyniad ariannu.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y broses galw i mewn o dridiau.