Penderfyniad:
Bod aelodau'n cymeradwyo;
1.
Y gyllideb ddiweddaredig arfaethedig ar gyfer 2024/25 sef
cyfanswm o £77.979m;
2.
Bod y sefyllfa mewn perthynas
â gwariant ar 30 Mehefin 2024 yn cael ei nodi.
Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig
I gydymffurfio â chyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â throsglwyddo'r
gyllideb, ailbroffilio rhwng blynyddoedd ariannol a diweddaru rhagamcaniadau
cyllideb y Cyngor ar gyfer 2024/25.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.