Mater - penderfyniadau

Eitem

27/09/2024 - List of Approved Contractors

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, argymhellir y canlynol:-

 

Bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei diwygio fel a ganlyn:-

Ychwanegu cwmni at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy.

Mae'r cwmni canlynol wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Cambrensis Civil Engineering Ltd (C078)

76,80

 

Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

 

Mae angen tynnu’r cwmnïau canlynol oddi ar y rhestr oherwydd y rhesymau canlynol:-

M038 - Mae'r cwmni wedi'i ymddiddymu

R041 - Mae'r cwmni wedi methu i fodloni'r gofynion iechyd a diogelwch a'r meini prawf ariannol

 

Cwmni

Categori

Mid Glam Construction Ltd (M038)

15,25,71,76,77,80,84

RTS Tree Specialist Ltd (R041)

2, 84 101,102

 

Tynnu categori gwaith oddi ar gontractwr cymeradwy oherwydd nad oes yswiriant iechyd a diogelwch

 

Cwmni

Categori

Core Highways (Regions) Ltd (A035)

2

 

DS Mae'r cwmni hwn yn parhau i fod yn gontractwr cymeradwy ar gyfer Categori 9 – Rheoli Traffig.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.