Mater - penderfyniadau

Treasury Management Outturn 2023-2024

25/09/2024 - Treasury Management Outturn 2023-2024

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfraddau llog Banc Lloegr, a gofynnwyd, pan fyddant yn newid, a yw'r awdurdod yn dilyn fformiwla benodol o ran buddsoddi a benthyca neu a yw ymateb yr awdurdod i'r newid yn cael ei benderfynu gan y Cabinet? Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod gynghorwyr trysorlys sy'n monitro cyfraddau llog a byddant yn darparu cyngor priodol i'r awdurdod ei ystyried o ran amcanestyniad cyfraddau llog yn y dyfodol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.