Mater - penderfyniadau

Revenue Budget Monitoring Outturn 2023-2024

25/09/2024 - Revenue Budget Monitoring Outturn 2023-2024

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant maethu o £253k fel a nodir ar dudalen 279 o'r pecyn agenda. Cadarnhawyd gan swyddogion, pan fydd y gyllideb yn cael ei phenderfynu, caiff y ffigur ei benderfynu yn unol â lleoliadau maeth disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn. Mae'r ffigur a nodir yn yr adroddiad yn cyfeirio at leoliadau maeth mewnol. Mae nifer y lleoliadau yn ystod y flwyddyn wedi lleihau, felly mae'r ffigwr sy'n gysylltiedig â'r eitem hon hefyd wedi lleihau. Mae'r gost yn ymwneud â nifer y lleoliadau, nid nifer y gofalwyr.

 

Holodd yr aelodau ynghylch y tanwariant o £238k ar brydau ysgol am ddim. Cadarnhaodd swyddogion nad oedd yr arian grant a dderbyniwyd tuag at y gost hon yn cael ei gynnwys pan gafodd y gyllideb ei phenderfynu. Nid oedd swm yr arian grant yn hysbys ar adeg penderfynu ar y gyllideb, felly ni ellid ei gynnwys nes iddo gael ei gadarnhau.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y rheolaeth dros dro a'r gorwariant ar y gyllideb weinyddu mewn perthynas â Pharc Gwledig Margam. Roedd yr aelodau'n deall y byddai ystyriaeth i geisio cynyddu incwm mewn perthynas â'r parc. Holodd yr Aelodau pa waith a wnaed ar hyn. O ran Hamdden Celtic, holodd yr aelodau beth oedd wedi achosi'r gorwariant gweinyddol? Cadarnhaodd swyddogion nad oedd ganddynt yr wybodaeth mewn perthynas â'r eitem hon a chadarnhawyd y byddent yn dod o hyd i'r wybodaeth a'i dosbarthu yn ôl yr angen.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant mewn perthynas â'r arbedion rheoli swyddi gwag nas cyflawnwyd yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd yr Aelod yn bryderus bod hyn yn cael ei ddefnyddio fel mecanwaith yn y gyllideb, fodd bynnag mae'n ymddangos nad yw'n cael ei gyflawni. Cadarnhaodd swyddogion fod pob cyfarwyddiaeth wedi derbyn targed rheoli swyddi gwag o 5%. Cyflawnwyd hyn ar draws y Cyngor, er efallai na fydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyfarwyddiaethau unigol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y gorwariant o £209,000 yng nghyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn perthynas â'r system a roddwyd ar waith a oedd yn mynd i gael ei hariannu o gronfeydd wrth gefn. Cadarnhaodd swyddogion fod gan yr awdurdod ddigon o arian wrth gefn i dalu am y system newydd a bod y gorwariant a nodir yn broblem gyda'r cyflwyniad o fewn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at gyfradd casglu treth y Cyngor a chydnabuwyd bod y Cyngor wedi casglu mwy na'r hyn yr oedd wedi'i gyllidebu ar ei gyfer. Roedd yr Aelodau'n bryderus nad oedd hyn wedi cael ei ragweld yn gywir a holwyd a fyddai unrhyw gamau gweithredu'n cael eu cymryd i sicrhau bod rhagolwg incwm treth y Cyngor yn gywir wrth symud ymlaen. Dywedodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei ystyried pan fydd y gyfradd wedi'i phenderfynu ym mis Tachwedd, fodd bynnag, roedd cwpl o eitemau i'w nodi mewn perthynas â hyn. Yn gyntaf, mae ansicrwydd o ran cyflogaeth ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod o fewn y fwrdeistref a hefyd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod fydd y premiymau ar ail gartrefi gwag a chartrefi gwag tymor hir yn cael eu cyflwyno. Gallai'r rhain gael effaith ar y gyfradd gasglu.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.