Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Mynegodd yr Aelodau eu pryder y gallai aelodau'r
cyhoedd gael eu drysu o ran pwrpas y Cynllun Corfforaethol. Gall aelodau'r
cyhoedd ei ystyried yn faniffesto ar gyfer y Cyngor, yn hytrach na dyheadau'r
Cyngor. Awgrymodd yr Aelodau y dylid mewnosod paragraff sy'n amlinellu'r hyn
sy'n bosib ar gyfer y Cyngor, yr eitemau y gall y Cyngor eu rheoli, a'r eitemau
lle nad oes ganddo reolaeth. Dylid ei amlinellu'n glir lle mae gan y Cyngor
gysylltiadau â rhanddeiliaid, ond nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros bolisi
a gweithredoedd y rhanddeiliaid.
Codwyd pryderon ynghylch tai o fewn y fwrdeistref
a'r gallu i ddarparu tai ar gyfer y cyfleoedd gwaith sy'n codi o fewn y
Fwrdeistref.
Pwysleisiodd yr aelodau fod cyfathrebu'n allweddol
ar gyfer y Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig ei fod yn adlewyrchu'n gywir yr
hyn a gynhwysir yn awdurdodaeth y Cyngor a'r hyn na chaiff ei gynnwys.
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cynllun
Corfforaethol yn ddogfen fyw ac y bydd ffactorau allanol yn effeithio ar yr hyn
y gellir ei gyflawni o fewn y cynllun. Mae angen dogfen sy'n addas ar gyfer y
cyhoedd hefyd sy'n nodi dyheadau'r Cyngor ac yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes
wedi'i gyflawni gan yr Awdurdod.
Cadarnhaodd swyddogion fod y Cynllun Corfforaethol
yn ddogfen statudol ac mae angen iddo gynnwys nifer o feysydd i gydymffurfio â
deddfwriaeth. O ran rheoli disgwyliadau'r cyhoedd, cydnabyddir bod y Cynllun
Corfforaethol wedi'i ddrafftio gan gydnabod yr heriau ariannol sylweddol a
wynebir gan y Cyngor. Mae'r ddogfen hefyd yn nodi'r strategaethau trawsnewid y
cytunwyd arnynt gan y Cyngor.
Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cyfeirio at y
Strategaeth Digwyddiadau. Mynegodd yr aelodau eu bod am i'r broses o drefnu
digwyddiadau gael ei symleiddio. Dywedodd swyddogion y bydd polisi'n cael ei
ddwyn gerbron yr aelodau'n fuan ar yr eitem hon. Y gobaith yw y bydd hyn yn
symleiddio'r broses ac yn annog pobl i gynnal digwyddiadau yn y fwrdeistref.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr amcan 'dechrau gorau
mewn bywyd' mewn perthynas â lleihau gwaharddiadau. Dywedodd yr Aelodau y
byddai'n anodd iawn cwblhau'r camau gweithredu hyn, yn enwedig gan ystyried
nifer yr ysgolion sydd mewn cyllidebau diffyg neu sy'n symud tuag at gyllidebau
diffyg.
Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau yr
argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.