Mater - penderfyniadau

Swansea Bay City Deal Highlight Report

25/06/2024 - Swansea Bay City Deal Highlight Report.

Cyflwynodd Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Bae Abertawe'r adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed ynghylch y rhaglenni a'r prosiectau a oedd yn rhan o Bortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu'r digwyddiad 'Cwrdd รข'r Fargen Ddinesig' ac yn teimlo ei fod yn werth mynychu ar gyfer unrhyw fusnesau newydd a'i fod yn agoriad llygad i'r hyn sydd ar gael i fusnesau na fyddai llawer ohonynt byth wedi gwybod amdano pe na bai hyn wedi cael ei roi ar waith.

 

Dywedodd y Cadeirydd hefyd fod yr ymweliad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Aberafan wedi bod yn gyfle diddorol i weld yr hyn sy'n digwydd ac mae'n gobeithio y bydd llawer mwy o'r adeiladau hyn yn cael eu hadeiladu i bobl elwa ohonynt.

 

Dywedodd swyddogion y gellid trefnu mwy o ymweliadau safle wrth i'r adeiladau eraill ar gyfer prosiectau fel y Matrics, Pentre Awel, a Ffordd y Brenin fynd ar-lein.

 

Nodwyd yr adroddiad.