Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu’n Strategol – Cyngor
Castell-nedd Port Talbot
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 33, paragraff 24 o
adroddiad Archwilio Cymru a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Nododd yr
adroddiad nad yw graddfa risg strategol gyfredol y cyngor yn adlewyrchu'n
ddigonol y risg weddilliol a wynebir oherwydd oedi wrth ddatblygu cynlluniau
olyniaeth a nodi rolau busnes hanfodol. Holodd yr aelodau a yw'r gofrestr
risgiau wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r pwynt hwn, a pha waith a wnaed ers
cyhoeddi'r adroddiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y
Gofrestr Risgiau Strategol yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, a bydd y broses
hon yn cynnwys gwaith ar gynllunio olyniaeth. Crynhodd y Pennaeth Gwasanaeth y
camau gweithredu a roddwyd ar waith i gynyddu nifer y gwasanaethau a chanddynt
gynlluniau olyniaeth ar waith, gyda sefyllfaoedd busnes hanfodol a nodwyd. Yn ystod
y flwyddyn galendr ddiwethaf, mae 72 o Reolwyr wedi mynychu Gweithdai Cynllunio
Olyniaeth ac mae'r gweithdy wedi'i wreiddio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu
Craidd ar gyfer Rheolwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r pecyn cymorth
a ddefnyddir ar gyfer cynllunio olyniaeth gyda'r nod o'i ddigideiddio.
Ymgymerwyd â dadansoddiad o'r cynlluniau olyniaeth sydd ar waith ar hyn o bryd.
Mae Rheolwyr Atebol wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau
olyniaeth ar waith.
Mynegodd yr aelodau bryder bod nifer o uwch reolwyr
allweddol wedi gadael yr awdurdod ac mae profiad y swyddogion busnes hanfodol
hyn wedi'i golli. Dywedodd yr aelodau nad oedd y gyfradd recriwtio yn cyfateb i
nifer y swyddi gwag.
Cydnabu'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol bwysigrwydd
rheolwyr yn ymwneud â chynllunio olyniaeth. Nodwyd bod cyfradd benodi
lwyddiannus y cyngor wedi cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd o 82% i 93% ac mae
gweithgarwch recriwtio wedi cynyddu 40%, gyda chyfradd trosiant gadarnhaol.
Cydnabuwyd bod rhai swyddi'n parhau i fod yn anodd eu llenwi, yn enwedig mewn
meysydd arbenigol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod hwn yn faes gwaith
pwysig a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd
mae'r cyngor yn gweithredu mewn marchnad lafur dynn. Rhennir gwybodaeth am y
gweithlu gyda'r Pwyllgor Personél i alluogi aelodau i olrhain cynnydd.
Roedd yr aelodau'n falch o glywed am y cynnydd mewn targedau
recriwtio ond mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a'r gost ariannol o
ddefnyddio taliadau atodol ar sail y farchnad mewn perthynas â swyddi anodd eu
llenwi.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod taliadau atodol ar
sail y farchnad yn offeryn y gellir ei ddefnyddio pan fo'n briodol ac mae
disgwyl i'r cynllun gael ei adolygu. Nodwyd mai dim ond un agwedd ar y pecyn
taliad cydnabyddiaeth gweithwyr yw tâl ac roedd buddion eraill yn gwneud y
cyngor yn gyflogwr deniadol.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y
defnydd o daliadau atodol ar sail y farchnad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol
wedi gweithio'n dda ac wedi helpu i gadw staff profiadol. Mae manteision
ariannol i'w cael wrth gymhwyso taliadau atodol ar sail y farchnad yn hytrach
na'r dewis arall o ôl-lenwi swyddi gwag gyda staff asiantaeth. Nodwyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol
yn anodd ar hyn o bryd.
Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr ymatebion
cynhwysfawr.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhelliad gan y Cabinet.
Tendro Bysus Lleol
Rhoddodd y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth drosolwg
gryno o'r adroddiad fel y'i cynhwysir ym mhecyn agenda Bwrdd y Cabinet.
Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am eu gwaith ar y mater
hwn ac am y canlyniad cadarnhaol. Holodd yr aelodau a oedd y gyllideb gyfan
wedi cael ei defnyddio neu a oedd unrhyw bosibilrwydd y byddai llwybrau
ychwanegol yn cael eu hail-sefydlu.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai llwybrau a
dorrwyd ym mis Hydref 2023 yn cael eu hailsefydlu. Mae Llywodraeth Cymru wedi
cytuno y gellir cadw'r tanwariant o £200 mil yn ystod y flwyddyn i'w ddefnyddio
yn y dyfodol. Cydnabyddir bod diffygion o hyd yn y Rhwydweithiau, nid yw rhai o
elfennau'r gwasanaethau wedi'u cofrestru. Aethpwyd ag adroddiad i'r Cabinet yn
ddiweddar a oedd yn rhoi caniatâd i ddyfarnu contractau Gwobr Cymhorthdal De Minimis,
gyda'r bwriad o ôl-lenwi unrhyw fylchau sy'n dod i'r amlwg. Mae trafodaethau
cynnar yn parhau mewn perthynas â masnachfreinio'r rhwydwaith bysus.
Mewn perthynas â gofynion staff, gofynnodd yr aelodau a oedd
unrhyw sicrwydd mewn perthynas â'r fframwaith wrth i'r prosiect anelu at
fasnachfreinio. Mewn perthynas â'r tanwariant o £200 mil ar wasanaethau bysus,
gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch gwasanaethau masnachol nad ydynt
wedi'u cofrestru a pha effaith y gall hynny ei chael cyn llenwi unrhyw fylchau.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau fod adolygiad
rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi nodi meysydd lle mae angen gwelliannau i
amseroedd teithio; y gobaith yw y bydd data'r adolygiad yn arwain at welliannau
isadeiledd. Bydd system gwybodaeth am deithwyr amser real yn cael ei chyflwyno
yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod y flwyddyn nesaf, mae'n cael ei
chyflwyno’n gynharach na mewn rhannau eraill o Gymru. Mae gwaith yn mynd
rhagddo o ran masnachfreinio a strwythur y rhwydwaith. Nid yw manylion llawn yr
ardaloedd masnachfreinio wedi'u cyhoeddi ond mae'n debygol y bydd naw ardal yng
Nghymru gyda Chastell-nedd Port Talbot yn disgyn o dan Ganolbarth / De Cymru.
Cadarnhawyd bod y tîm mewnol yn cynnwys 1.2 aelod o staff a fydd yn gyfrifol am
42 contract, cofrestru, amserlennu a chwynion yn ogystal â'u dyletswyddau
cyfredol. Mae angen ehangu'r tîm drwy'r broses reoli newid a chreu dwy rôl newydd o bosib i sicrhau bod
y tîm yn gynaliadwy ac yn gadarn. Nodwyd
bod rôl y swyddogion yn hanfodol i fusnes ac mae cynllun olyniaeth ar waith.
Dywedodd yr aelodau fod cynllunio olyniaeth yn anodd mewn
adrannau llai gydag anghysondeb mawr rhwng graddau o fewn y timau.
Cadarnhaodd swyddogion fod y gofyniad am wasanaeth bysus
newydd rhwng Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot wedi'i nodi, cafodd
hyn ei ystyried yn ystod y broses dendro ond ni chymerwyd unrhyw gamau oherwydd
ansicrwydd ariannol. Mae gan weithredwyr wasanaethau cofrestredig i'r ysbyty ar
draul y rhwydwaith lleol ac mae angen llenwi'r bwlch hwn mewn gwasanaeth.
Gofynnodd yr aelodau am eglurder mewn perthynas ag unrhyw
fylchau mewn gwasanaeth ar ôl 1 Ebrill 2024.
Cadarnhaodd swyddogion fod trosglwyddiad di-dor yn dibynnu
ar y Comisiynydd Traffig yn derbyn yr hysbysiad tymor byr a roddwyd gan First
Cymru. Os nad oedd y Comisiynydd Traffig yn derbyn yr hysbysiad tymor byr,
efallai y bydd toriad yn y gwasanaeth.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.