Hunanasesiad 2022-2023
Rhoddodd swyddogion drosolwg o adroddiad Hunanasesiad
2022-2023 a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 29 yr adroddiad (Crynodeb o
Berfformiad) a mynegwyd siom yn nifer y meysydd a gwblhawyd. Holodd yr Aelodau
am yr oedi cyn cwblhau SA22 (mireinio ymagwedd y cyngor o ran ymdrin â'r
strategaeth Hunanasesiad) ac SA3 (sefydlu tasglu recriwtio) a mynegwyd pryder
ynghylch faint o amser a gymerir i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y
rhai sy'n gadael yr Awdurdod Lleol a'r amserlen o ran ceisiadau cynllunio.
Mynegodd aelodau siom nad oedd ffigurau canran yn cynnwys data llawn, fel y
gofynnwyd amdano'n flaenorol, sy'n golygu roedd craffu ac argymell i'r Cabinet
yn anodd.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd modd cwblhau'r cyfeirnod
SA22 yn 2022/2023 oherwydd materion gallu, ond y gobaith yw y bydd hyn yn cael
ei gwblhau ar gyfer hunanasesiad 2023/2024. Ymddiheurodd swyddogion am y diffyg
ffigurau cyfatebol yn yr adroddiad mewn perthynas â'r canrannau a chadarnhawyd
y bydd hyn yn cael ei gynnwys cyn caiff y ddogfen ei chyhoeddi.
Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y
tasglu recriwtio wedi'i sefydlu, ond mae gwaith yn mynd rhagddo gan fod nifer o
swyddi sy'n anodd eu llenwi yn y cyngor o hyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i
gyflwyno data ymadawyr mwy manwl ac mae categorïau rhesymau ymadawyr wedi cael
eu gwella. Mae'r data a ddarperir yn adlewyrchu 2022/23 a bydd gwybodaeth
fanylach ar gael wrth i amser fynd yn ei flaen.
Dywedodd yr aelodau y byddai wedi bod yn gliriach pe bai'r
adroddiad wedi nodi bod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu ac yn parhau â'r
gwaith sy'n mynd rhagddo.
Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a gofynnwyd
am eglurhad o'r ymagwedd a fabwysiadwyd eleni, a pham nad oedd adroddiadau
eraill yn cyd-fynd fel sydd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill.
Cadarnhaodd swyddogion fod ymchwil wedi'i wneud i sefydlu'r
ymagwedd orau ar gyfer hunanasesu gan fod yr arweiniad yn gyfyngedig. Nodwyd
mai hwn oedd yr ail hunanasesiad sydd wedi'i gwblhau yn unig a bydd adborth yr
aelodau'n cael ei ystyried mewn perthynas â chwblhau'r trydydd hunanasesiad.
Bydd y pecyn cymorth yn gallu dangos y cynnydd a wnaed dros amser a rhoddir
ystyriaeth i sicrhau nad oes dyblygu a bod yr asesiad yn ychwanegu gwerth.
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn
agenda.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.
Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Sefyllfa'r Setliad
Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid wrth y pwyllgor mai adroddiad
gwybodaeth ar gyfer y Cabinet yw hwn, sy'n nodi'r sefyllfa ariannol sy'n
gwaethygu o ganlyniad i'r setliad dros dro is. Mae'r adroddiad hefyd yn manylu
ar dri grant penodol lle bu toriadau sylweddol ar draws Cymru.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am oblygiadau
colli grantiau.
Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y cyngor wedi derbyn
manylion y gostyngiadau grant penodol ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd y setliad
dros dro ar 20 Rhagfyr 2023.
Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd
a Thai fod y gwasanaeth yn edrych yn gyntaf i weld a oes cyfleoedd i gwtogi'r
hyn y mae'r grant yn cael ei wario arno. Mewn perthynas â Grant y Gweithlu
Gofal Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru'n annog y grantiau i gael eu
defnyddio i ddarparu cymorth i ddarparwyr gofal cartref allanol mewn perthynas
â recriwtio gofal cartref. Mae angen i'r
gwaith hwn barhau gan arwain at bwysau o £500k ar gyllideb y Gwasanaeth
Cymdeithasol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gydbwyso'r gyllideb.
Diolchodd yr Aelodau i'r Cyfarwyddwr am ddarparu eglurder, a
holwyd a fyddai'r diffyg yn cael ei nodi o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol
neu a fyddai'n cael ei ledaenu ar draws cyfarwyddebau.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai'r pwysau hwn yn cael ei
gymryd o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i
gwblhau hyn.
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn
atodol.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.