Cyllideb 2024/25
Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Amlinellodd y Prif Weithredwr y sefyllfa gyllidebol heriol ar gyfer
2024/25. Cynhaliwyd ymarfer helaeth ynghylch cynyddu incwm a lleihau gwariant
ar gyfer y flwyddyn, wrth gynnal swyddi a gwasanaethau o fewn y Cyngor. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r
setliad dros dro cyn y cyfarfod. Mae'r setliad arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn
mynd i waethygu sefyllfa'r gyllideb y tu hwnt i'r hyn a nodir yn yr adroddiad.
Y bwriad yw i swyddogion gynnal asesiad yn barod ar gyfer mis Ionawr er mwyn
adrodd yn ffurfiol ar y dadansoddiad a nodwyd ar effaith y gyllideb dros dro.
Ar ben hynny, sut y gall y Cyngor bontio'r bwlch cynyddol yn adnoddau'r Cyngor
ymhellach ar gyfer 2024/25.
Holodd yr Aelodau pam yr oedd y cais am ganiatâd i ymgynghori wedi cael ei
ystyried ar ddiwedd mis Rhagfyr, a pham na cheisiwyd caniatâd yn gynharach fel
y gallai'r ymgynghoriad ddechrau'n gynt? Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi bod
yn gweithio i sicrhau bod yr holl gynigion cynhyrchu incwm a gwariant yn cael
eu harchwilio'n llawn cyn i'r ymgynghoriad ddechrau.
Mae swyddogion wedi ymgynghori ar rai cynigion penodol yn yr adroddiad.
Amlinellodd swyddogion pa eitemau sydd wedi bod yn rhan o ymgynghoriad
cyhoeddus. Lle'r oedd yn bosib nodi pethau ar gyfer ymgynghoriad yn gynharach,
mae hyn wedi'i wneud.
Holodd yr Aelodau am eitemau yn y gyllideb sy'n awgrymu talu gwariant
craidd drwy grantiau, ac a fyddai hyn yn cael effaith ganlyniadol wrth ddarparu
gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd swyddogion fod hyn ar gyfer ystyriaeth
unigol gan gyfarwyddiaethau a'i fod yn ymwneud â sicrhau bod y grant yn cael ei
ddefnyddio i'r eithaf o fewn y gyllideb.
Mynegodd yr Aelodau bryderon parhaus am chwyddiant a'r dyfarniad cyflog
presennol ac ymholwyd a oedd y ddarpariaeth o 4% yn y gyllideb yn ddigonol.
Dywedodd swyddogion fod y 4% wedi cael ei feincnodi gyda'r 21 awdurdod lleol
arall yng Nghymru a'i fod yn gyson â rhagolygon eraill. Roedd swyddogion yn
hyderus y byddai hyn yn ddigon.
Tudalen 2 o’r adroddiad, sy'n dangos bod y gyllideb yn cefnogi mentrau
polisi lleol a flaenoriaethwyd gan Glymblaid yr Enfys. Mae'r mentrau hyn yn
cyfeirio at y rhai y cytunwyd arnynt o fewn y Cynllun Corfforaethol.
Mae tudalen 4 yn amlinellu bwlch o £3.5m. Dywedodd swyddogion mai dyma'r
£3.5m a ddefnyddiwyd i gydbwyso cyllideb 23/24, y mae angen ei gynnwys yn awr o
fewn y gyllideb eleni.
Mae tudalen 11 yn cyfeirio at gyflawni polisïau Llywodraeth Leol a
Llywodraeth Cymru. Holodd yr Aelodau a oes unrhyw bolisïau sydd ar y gweill gan
Lywodraeth Cymru, y gwyddom nad ydynt yn mynd i gael eu hariannu. Dywedodd
swyddogion nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw beth ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
nodwyd nad yw'r setliad cyffredinol yn ariannu'r hyn sydd ei angen arnom ar hyn
o bryd.
Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd o 7.5% mewn derbyniadau incwm yn tybio
bod cynnydd o 7.5% ym mhob llinell incwm, ond y cyfarwyddiaethau unigol fydd yn
penderfynu sut y maent yn cyflawni hyn. Er enghraifft, gallai fod yn gymysgedd
o daliadau cynyddol a chynnydd mewn cyfaint.
Holodd yr Aelodau, yn seiliedig ar y newid yn y grant refeniw a nodwyd gan
Lywodraeth Cymru sef 0.3%, sut effaith byddai hyn yn ei chael ar y bwlch a
grëwyd ac a oedd unrhyw syniad o ran pa gostau y byddai angen eu codi ar gyfer
treth y cyngor er mwyn cau'r bwlch hwnnw. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r
gostyngiad yn cyflwyno bwlch o £870,000 yn ychwanegol, yn seiliedig ar y model
a gyflwynwyd.
Holodd yr Aelodau faint o'r gyllideb refeniw sy'n gyllideb wrth gefn.
Amlinellodd swyddogion y gronfa wrth gefn mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog
a'r gyllideb ynni-effeithlon. Fodd bynnag, nodwyd bod cronfa wrth gefn
gyffredinol o £700,000.
Holodd yr Aelodau am y swm a oedd ar gael mewn cronfeydd wrth gefn
cyffredinol a’r swm a argymhellir. Nodwyd y gallai fod oddeutu £1m ond oherwydd
y gorwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn ar hyn o bryd, dywedodd swyddogion
y byddai'n annhebygol y byddai unrhyw arian wrth gefn yn y cronfeydd wrth gefn.
Nododd yr Aelodau fod amcan eang wedi'i nodi i leihau canolfannau dinesig o
dair i ddwy. Gellid gwneud arbediad mawr drwy leihau costau ynni. Dywedodd
swyddogion mai dyma oedd y nod o hyd a'r bwriad yw y bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno yn y flwyddyn newydd gydag opsiynau i Aelodau eu hystyried.
Mewn perthynas ag Env 12/13 mae'n nodi cael gwared ar gytundeb mynediad a
hawliau cyhoeddus a chael gwared ar y cytundeb trwydded mewn perthynas â
chamlas Castell-nedd. Holodd yr Aelodau beth oedd ystyr hyn. Dywedodd
swyddogion fod cytundeb trwydded ar waith ar hyn o bryd gyda pherchennog y
gamlas i alluogi defnydd o ran o'r gamlas i'r gogledd o Resolfen at ddibenion
hamdden, a hefyd gytundeb mynediad cyhoeddus ar ben deheuol y gamlas sy'n mynd
drwy Lansawel i alluogi mynediad i'r llwybr halio. Cost y ddwy drwydded yw
£135,000 y flwyddyn. Cadarnhaodd swyddogion fod gan CNPT hawliau tramwy helaeth
ar hyd y llwybr halio, fodd bynnag mae bylchau. Bydd angen i swyddogion CNPT
benderfynu a allant ddangos yn y bwlch fod dadl hawl tramwy i'w chyflwyno i'r
perchennog i sicrhau'r statws hwnnw, neu a allai CNPT gael cytundeb mynediad
cyhoeddus yn unig. Felly, yn hytrach na thalu perchennog y gamlas i gynnal yr
ardal, caiff hyn ei ymgorffori fel rhan o amserlen cynnal a chadw CNPT.
Awgrymodd yr Aelodau fod perygl y gallai hawl mynediad cyhoeddus gael ei
golli ar hyd y llwybr teithio llesol a sefydlwyd yn Llansawel. Dywedodd
swyddogion fod nifer o lwybrau a chanddynt hawliau gweithredol caniataol. Bydd
swyddogion yn archwilio pob opsiwn i geisio sicrhau bod y llwybrau hynny'n cael
eu cynnal.
O ran goleuadau stryd, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai hwn yn
ymgynghoriad ar wahân i'r ymgynghoriad ar y gyllideb.
Amlinellodd yr Aelodau eu pryderon o ran Hamdden Celtic a'r oedi o ran dod
â'r gwasanaeth yn fewnol. Ymhellach, nid oes cynllun busnes wedi cael ei
archwilio na'i gyflwyno eto mewn perthynas â'r eitem hon. Amlinellodd yr
Arweinydd y camau a gymerwyd i drafod y penderfyniad i ohirio'r dyddiad ar
gyfer dod â'r gwasanaeth yn ôl yn fewnol â staff. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet
fod achos busnes wedi'i lunio, fodd bynnag, oherwydd mae nifer o eitemau wedi
newid, a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, er enghraifft costau ynni
cynyddol, nid oedd yn gallu bwrw ymlaen.
Cyfeiriodd swyddogion at dudalen 26 o'r adroddiad, L4 yn benodol, sy'n nodi
cynnig i leihau costau rhedeg Hamdden Celtic i gyfanswm o £660,000 dros oes y
cynllun ariannol tymor canolig. O ran costau sefydlog, cadarnhaodd swyddogion y
bydd costau ychwanegol o £1.3m yn berthnasol pan fydd y gwasanaeth yn cael ei
fewnoli, mewn perthynas â chyfraddau a chostau staff.
Cadarnhaodd swyddogion y gweithiwyd ar y cynllun busnes y llynedd, pan
nododd yr amserlen y byddai Hamdden Celtic yn cael ei fewnoli ar 1 Ebrill 2023.
Pan gwnaed y penderfyniad i oedi'r gwaith o fewnoli’r gwasanaeth, gohiriwyd y
cynllun busnes. Cadarnhawyd, pan fydd y Cyngor yn barod i fewnoli, y bydd y
cynllun busnes yn cael ei gyflwyno.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.
Cyllid Grant Trydydd Sector - Dyfarnu Grantiau ar gyfer
2024 – 2025
Cadarnhaodd swyddogion ers cyhoeddi'r adroddiad ei fod wedi cael ei
gadarnhau bod nifer o sefydliadau wedi cyflwyno'r un ceisiadau am gyllid i sawl
cronfa ariannu. Mae pot cynllun CNPT yn ddewis olaf, nid y dewis cyntaf. Dylai
fod pob cais am gyllid yn cael mynediad at botiau eraill yn gyntaf. Mae angen
penderfynu ar ganlyniadau ceisiadau eraill cyn ystyried y dyfarniad hwn. Dim
ond dau o'r sefydliadau a restrir fydd yn cael eu hargymell ar gyfer dyfarniad.
Holodd yr Aelodau pam y cyflwynwyd dau opsiwn a'r cefndir ar gyfer y
rhesymeg y tu ôl i hyn. Cadarnhaodd swyddogion oherwydd y sefyllfa ariannol
gyffredinol fod gorymgeisio ar gyfer y gronfa. Roedd yr opsiynau'n amlinellu'r
dewisiadau i Aelodau.
Cadarnhaodd y Cadeirydd argymhelliad diwygiedig y swyddog, sef
'cymeradwyo'r grant (a nodwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd) i
Ganolfan Maerdy ac Ymddiriedolaeth Datblygu Ystalyfera, a nodi bod y ceisiadau
ychwanegol am grantiau yn cael eu dwyn i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol ym
mis Ionawr 2024 i'w penderfynu gan yr Aelodau.'
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.