Mater - penderfyniadau

Craffu Cyn Penderfynu

11/01/2024 - Craffu Cyn Penderfynu

 

Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2023-2026)

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd yr Aelodau fod ceisiadau cynllunio yn cael eu hystyried yn unigol a gofynnwyd sut y bydd y Ddyletswydd Bioamrywiaeth yn effeithio ar y cyngor wrth gyflawni ceisiadau datblygu mawr eu hangen. Cadarnhaodd swyddogion fod bioamrywiaeth yn ystyriaeth berthnasol yn y broses o wneud penderfyniadau cynllunio. Nodwyd bod safleoedd o bwys cenedlaethol megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn cael eu gwarchod gan bolisi cynllunio cenedlaethol gyda rhai dynodiadau'n destun Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd. Mae polisi'r CDLl yn amlinellu y dylid osgoi unrhyw safleoedd o bwys ond mae'n rhaid cydbwyso hyn â'r angen am dwf economaidd. Mae ffactorau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn cael eu hystyried. Os bydd rhesymau pennaf dros adeiladu yn bresennol, mae gofynion lliniaru a/neu iawndal yn cael eu hystyried. Mae'r Tîm Ecoleg yn chwilio am ffyrdd arloesol i hybu bioamrywiaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fod y cynllun hwn yn fwy na'r broses gynllunio, roedd yn cynnwys sut y mae'r cyngor yn ymateb yn ehangach i'r ddyletswydd ac yn arddangos cydymffurfiaeth.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

2022/23 - Adroddiad Alldro Rheoli'r Trysorlys

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dabl benthyciadau'r Awdurdod Lleol ar dudalen 197 a gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch y benthyciad o £10m a restrwyd ar ddiwedd mis Mawrth. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod angen y benthyciad tymor byr i dalu am hylifedd a llif arian ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Mawrth a 12 Ebrill 2023. Y gost llog oedd £28k sy'n cael ei chynnwys yng nghyllideb Rheoli'r Trysorlys ac ad-dalwyd y benthyciad yn llawn ar 12 Ebrill 2023. Holodd yr Aelodau a oedd modd cymryd y diffyg hwn o gronfeydd wrth gefn yn yr achos hwn. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod yr awdurdod wedi buddsoddi £53m mewn buddsoddiadau cyfnod penodol a gynhyrchodd log o £1.5m.

 

Holodd yr Aelodau a oedd yr amgylchiadau hyn wedi codi yn ystod unrhyw flwyddyn flaenorol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod benthyca tymor byr/hir i dalu am lif arian yn weithdrefn safonol ar gyfer pob awdurdod lleol fel rhan o drefniadau'r trysorlys. Ar yr achlysur hwn roedd y benthyca wedi ymestyn dros gyfnod diwedd y flwyddyn. Nodwyd y gallai benthyca o'r llywodraeth fod ar gyfer cyfnod o flwyddyn yn unig, caiff anghenion tymor byr eu diwallu drwy fenthyca rhwng awdurdodau lleol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Monitro'r Gofrestr Risgiau 2023/24

 

Cyfeiriodd yr aelodau at SR14, SR18 a SR19 o'r Gofrestr Risgiau, a holwyd a ystyriwyd effaith diffyg cynhyrchu dur yn lleol ar yr economi leol yn enwedig mewn perthynas â'r Porthladd Rhydd Celtaidd a'r posibilrwydd o golli cwsmeriaid pwysig. Nodwyd y byddai cau yn cael effaith sylweddol ar yr economi, diweithdra a gwasanaethau cymdeithasol. Gofynnodd yr aelodau pa gefnogaeth y gall y cyngor ei rhoi ar waith i gefnogi gweithwyr Tata Steel, a oes Cynllun Gweithredu a pha waith lobïo y gellid ei wneud.

 

O ran y risg strategol newydd a nodwyd yn erbyn datblygiadau yn Tata Steel, cydnabu'r Prif Weithredwr nad yw'r cwmni wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch ei gynllun trosglwyddo arfaethedig. Cynhelir trafodaethau anffurfiol rhwng y cwmni a'u hundebau llafur cydnabyddedig.

 

Yn dilyn cyfarfod cyntaf y Bwrdd Trosglwyddo, cynhaliwyd dwy sesiwn gynllunio amlasiantaeth i edrych ar ymatebion ar unwaith posib. Mae prif swyddogion yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill i sicrhau bod y cyngor yn barod i ymateb unwaith y bydd cynlluniau ac amserlenni'n hysbys. Datblygwyd manyleb gwaith i gefnogi penderfyniad y Bwrdd Trosglwyddo i gomisiynu cynllun gweithredu ar yr economi lleol. Bydd hyn yn dadansoddi effaith economaidd leol unrhyw gyfnod trosglwyddo a gynigir, gan hefyd nodi opsiynau ar gyfer creu swyddi eraill yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir. Cyfeiriwyd yr aelodau at y rhaglen adfywio bresennol a ddatblygwyd gan y cyngor lle mae amrywiaeth o brosiectau a allai helpu wrth greu cyflogaeth newydd. Er enghraifft, y cynnig i ddatblygu Dociau Port Talbot a'r rhaglen Porthladd Rhydd gysylltiedig. Byddai'r gwaith hefyd yn golygu y gallai syniadau eraill gael eu cyflwyno.

 

Nodwyd bod safle Tata Steel yn safle strategol allweddol sydd wrth ymyl daliadaethau tir Gymdeithas Porthladdoedd Prydain. Byddai'r cyngor yn disgwyl i'r cwmni a'r llywodraethau fod yn glir ynghylch defnyddiau amgen posibl ar gyfer unrhyw rannau o'r safle a allai ddod ar gael.

 

Cytunodd yr aelodau bod angen olrhain Tata Steel ar y gofrestr risgiau a mynegwyd siom a phryder ei bod yn ymddangos bod y ddealltwriaeth wreiddiol na fyddai'r pen trwm yn cau wedi newid. Mae angen i aelodau gefnogi a lobïo i geisio helpu'r sefyllfa hon i symud ymlaen.

 

Ailadroddodd y Prif Weithredwr nad yw'r cyngor yn atebol nac yn gyfrifol am y penderfyniadau a wneir gan Tata Steel, ond bod ganddynt rôl i'w chwarae wrth helpu a chefnogi cymunedau lleol.

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Prif Weithredwr am yr ymateb cynhwysfawr a manwl. Rhoddodd y Cabinet sicrwydd y byddai'r cyngor cyfan a swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at SR05 - Diogelu, a holwyd pam nad oedd y llwybr hyfforddi a diogelu trosiannol ar waith ar hyn o bryd?

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr hyfforddiant ar waith ond mae angen datblygiad pellach. Mae'r llwybr diogelu trosiannol yn fater hyfforddi ar wahân sy'n cael ei gyflwyno i wasanaethau i oedolion yn benodol. Darperir hyfforddiant diogelu sylfaenol bob 3 blynedd ond mae angen gwneud gwelliannau monitro. Bydd adroddiad ynghylch hyfforddiant diogelu yn cael ei ail-gyflwyno i Bwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol.

Wrth gyfeirio at SR07, holodd yr aelodau pam fod staff Iechyd Galwedigaethol ychwanegol yn cael eu cyflogi.

 

Rhoddodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol esboniad ynghylch y Tîm Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol a dywedodd nad yw'r tîm yn adnoddau ychwanegol ac maent yn weithwyr y cyngor. Mae'r Rheolwr a'r Tîm Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol wedi rhoi fframwaith Iechyd a Diogelwch ar waith i liniaru'r risg iechyd a diogelwch ar draws y cyngor.

 

Holodd yr aelodau a yw'r rhaglen dreigl diogelu ar gyfer gyrwyr tacsi ar waith o hyd. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod y rhaglen hyfforddi wedi'i hymgorffori yn ein harferion mewn perthynas â Thrwyddedu a'r nod yw cyflwyno'r rhaglen i feysydd gwahanol.

Cyfeiriodd yr Aelodau at SR01- Pontydd a Strwythurau, a gofynnwyd am fanylion cynnydd y rhaglen dreigl o ran arolygiadau ar gyfer Pontydd a Strwythurau? Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod 20 prif arolygiad ar gyfer y strwythurau mwyaf hirhoedlog yn gweithredu o fewn cylch 6 blynedd ac mae'r targed hwn yn gyraeddadwy. Mae 250 o arolygiadau cyffredinol wedi'u cynllunio'n flynyddol ar gylch dwy flynedd ac mae hyn ar y trywydd iawn i gael ei gyflawni.

 

Gan gyfeirio at y Cynllun Rheoli Asedau Eiddo, gofynnodd yr aelodau a oedd digon o adnoddau staff ar gael i ailddechrau cynnal arolygon cyflwr adeiladau'r cyngor. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod adroddiad yn cael ei ailgyflwyno tua diwedd y mis/dechrau mis Rhagfyr i nodi cyflwr holl adeiladau'r cyngor. Cadarnhawyd, oherwydd pwysau adnoddau mewnol, bu oedi wrth ddiweddaru'r cynllun.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at SR18 a gofynnwyd am wybodaeth gefndirol ynghylch pam y mae'r risg Codi'r Gwastad wedi'i dynnu oddi ar y gofrestr risgiau corfforaethol. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod cyllid Codi'r Gwastad wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau o fewn ardal Cwm Nedd, roedd rhan o'r cyllid ar gyfer prosiect yng Ngwlad y Sgydau, Pontneddfechan. Yn dilyn cymeradwyaeth, cododd anawsterau mewn perthynas â'r defnydd o dir o fewn perchnogaeth breifat. Nid oedd amserlen cyflenwi'r prosiect yn caniatáu prosesu prynu tir gorfodol ac roedd risg uchel na fyddai'r prosiect yn cael ei gyflwyno. Yn dilyn hynny, roedd llywodraeth y DU yn caniatáu amser ychwanegol ar gyfer y gorchymyn prynu tir gorfodol a dad-ddwyswyd y risg. Ar hyn o bryd maent yn mynd ar drywydd y broses honno ar y cyd â cheisio sicrhau sefyllfa a drafodwyd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.