Cais i’r Gronfa Grantiau Amrywiol
(Urdd Siewmyn De Cymru a Gogledd Iwerddon)
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel
a nodwyd yn y pecyn agenda.
Holodd yr Aelodau a oes unrhyw
astudiaeth wedi'i chynnal i ddeall yr effaith yr oedd Ffair Castell-nedd yn ei
chael ar fasnach yn nhref Castell-nedd. Roedd yr Aelodau'n awyddus i ddeall pam
nad oedd Urdd y Siewmyn wedi derbyn unrhyw gyllid gan y Llywodraeth yn ystod
COVID.
Eglurodd swyddogion fod y cais mewn
perthynas â'r ffair bleser yn unig ac nid y ffair stryd. Mae'r £31,000 a
amlinellir yn y cais yn cwmpasu cost y ffair bleser ar gyfer digwyddiadau a
gynhelir ym mis Medi ac yn ystod y Pasg.
Dywedodd y swyddogion fod y meini
prawf ar gyfer cyllid COVID ar y pryd wedi'u pennu gan Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru. Roedd yn rhaid i sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nid oedd swyddogion yn gallu rhoi sylw
ynghylch pam na chafodd Urdd y Siewmyn gyllid.
Nid oedd swyddogion yn ymwybodol bod
unrhyw ddadansoddiad penodol wedi'i gynnal mewn perthynas ag effaith
presenoldeb y ffair bleser yn y dref o'i gyferbynnu â pheidio â bod yn
bresennol.
Cadarnhaodd swyddogion fod y cais am
gymorth ariannol yn cael ei asesu yn ôl y meini prawf a amlinellir yn yr
adroddiad. Nid oes gofyniad i'r ymgeisydd ddangos ei fforddiadwyedd ar gyfer y
digwyddiad y mae'n gwneud cais am gyllid ar ei gyfer.
Cododd yr Aelodau bryder ynghylch
defnyddio'r polisi gan ofyn a oedd yn addas i'r diben mewn perthynas â'r ffaith
ei fod ar gyfer sefydliadau elusennol a gwirfoddol ac er budd y gymuned. Holodd
yr Aelodau ynghylch pa fudd sydd i Urdd y Siewmyn a sut mae hynny'n rhoi nôl
i'r gymuned leol, gan fod yr elw'n cael ei rannu ymhlith y rheini sy'n ymwneud
â'r digwyddiad, ac nid yn cael ei roi i'r gymuned.
Cadarnhawyd bod Urdd y Siewmyn yn
gasgliad o unigolion ac nid yw'n endid cyfreithiol yn ei rinwedd ei hun ac
felly nid oedd gofyniad i sefydliad fod yn sefydliad gwirfoddol neu elusennol,
dim ond os yw sefydliad o'r math hwn yn gwneud cais, rhaid iddo fod yn
ymroddedig i ymdrechion lleol eu natur.
Eglurodd swyddogion nad yw'r telerau
a amlinellir uchod yn atal sefydliadau eraill rhag gwneud cais. Pwrpas y grant
amrywiol yw bod yn un sy'n cwmpasu pawb yn gyffredinol, lle nad oes modd
defnyddio grant penodol. Yr awdurdod lleol sydd â'r disgresiwn o ran a yw
Aelodau'n dymuno caniatáu cymorth neu beidio i'r sefydliad sy'n gwneud cais.
Roedd yr adroddiad yn datgan os nad
oedd y grant yn llwyddiannus yna ni fyddai'r ffair yn mynd yn ei blaen.
Mynegodd yr Aelodau eu pryder bod Cyfathrebiadau CNPT wedi cyhoeddi datganiad
ar 23 Awst 2023 a oedd yn dweud yn glir bod y ffair yn mynd yn ei blaen.
Cadarnhaodd swyddogion fod nifer o
bolisïau'n cael eu hadolygu gan y Pennaeth Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth,
gan weithio gyda'r Pennaeth Adfywio a swyddogion perthnasol eraill i ystyried
digwyddiadau a'r modd y rheolir digwyddiadau'n gyffredinol a sut mae'r cyngor
yn ymwneud â'r sefydliadau hynny. Bydd rhan o'r adolygiad yn ymwneud â
digwyddiadau y gofynnir i'r cyngor gyfrannu'n ariannol atynt. Gall hyn gyfeirio
at y Cynllun Grantiau Amrywiol ac unrhyw gronfa grantiau arall sy'n ymwneud â'r
maes hwn. Byddai unrhyw newidiadau angenrheidiol yn benderfyniad gweithredol
fel y byddai gan y pwyllgor craffu gyfle i ystyried yr eitemau'n fanylach ar yr
amser priodol pe dymunent.
Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad
gefnogaeth i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet.