Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1 a 2 yr
adroddiad a ddosbarthwyd;
1.
bod y Strategaeth Cyfranogiad
ac Ymgysylltu yn cael ei gymeradwyo i fabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol gyda
fframwaith clir ar gyfer Cyfranogiad ac Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn
dilyn ymgynghoriad.
2.
bod fersiwn hawdd ei darllen
o'r Strategaeth sy'n addas i bobl ifanc yn cael ei llunio ac yn hygyrch i bawb.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Cryfhau cyfranogiad ac ymgysylltiad â phlant a
phobl ifanc ymhellach ar faterion a phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 29 Ionawr
2023.