Nododd yr aelodau yr Asesiad Effaith Integredig
diwygiedig.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig:
Y bydd Opsiwn 3 yn cael ei rhoi ar waith i reoli'r
risg a gwella'r amgylchedd lleol, gyda’r gost yn cael ei hariannu gan Gronfa
Wrth Gefn Gorfforaethol y cyngor, neu drwy unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru
sydd ar gael yn y dyfodol.
Rheswm dros y Penderfyniad:
I reoli'r risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n
gysylltiedig â llif malurion o domenni gwastraff ar y safle, gan mai dyma'r
unig ateb fforddiadwy sydd ar gael i'r cyngor.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr
2022.