Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
a) Bod ymarfer yn cael ei
gynnal sy'n cynnwys yr holl ymgynghoriad angenrheidiol, i alluogi sefydlu
fframwaith i ddarparwyr sy'n gallu cynnig Cyfrifon a Reolir a Gwasanaethau
Cefnogi'r Gyflogres i bobl sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
b) Bod Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion yn cael awdurdod dirprwyedig i ychwanegu darparwyr sy'n
bodloni gofynion y fframwaith. Bod y
fframwaith yn para am bedair blynedd gyda'r opsiwn o ymestyn y cyfnod am hyd at
bedair blynedd arall.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn y sefyllfa orau i gyflawni'i ddyletswydd statudol
i gefnogi derbynyddion Taliadau Uniongyrchol wrth sefydlu'r fframwaith.
Er
mwyn sicrhau bod y cyngor yn gyson ag arfer gorau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd
y gwaith o roi'r penderfyniad ar waith yn cychwyn ar ôl y cyfnod tri diwrnod
galw i mewn, sy'n dod i ben ddydd Llun 14 Tachwedd 2022.
Ymgynghoriad:
Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.