Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod y Polisi Derbyn i Ysgolion Cymunedol 2024/2025, yn cael ei
gymeradwyo i ymgynghori arno.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau
statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion
cymunedol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022.
Ymgynghoriad:
Mae angen ymgynghoriad â chyrff llywodraethu
ysgolion cymunedol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol h.y.
ysgolion ffydd, a phob awdurdod lleol cyfagos. Yn ogystal, bydd y cyngor yn
ymgynghori ar y Fforwm Derbyniadau, a bydd y broses ymgynghori'n dod i ben ar
30 Rhagfyr 2022.