Roedd yr aelodau'n gefnogol o’r ychwanegiadau at
yr argymhelliad a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn
y cyfarfod hwn (fel y nodir isod).
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig:
1. Eir ar drywydd Opsiwn 2 a fanylir o fewn yr
adroddiad a gylchredwyd am y dyfodol rhagweladwy, gyda'r ffensys palisâd ar bob
pen o'r twnnel yn cael eu cynnal fel y maent ar hyn o bryd.
2. Cynhelir astudiaeth dichonoldeb ar gyfer
defnydd yn y dyfodol, a'r opsiynau dilynol yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor o
fewn y 12 mis nesaf.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Penderfynu ar y ffordd ymlaen ynghylch yr
adeiledd.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar
ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref
2022.