Mater - penderfyniadau

*Insert Item*

24/10/2022 - Cemetery Rules and Regulations

 

Penderfyniadau:

 

1. Parhau i dreialu rhoi'r amseroedd claddu newydd ar waith am gyfnod o 6 mis. Cynnal adolygiad ar ôl cyfnod o 6 mis, a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol ar ôl ymgynghori ymhellach â threfnwyr angladdau.

2. Parhau â'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae ar hyn o bryd, a chaniatáu mynediad 24/7 i fynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan ychwanegu mesurau diogelwch fel y nodir yn adran gefndir yr adroddiad a gylchredwyd. Parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus, a mynd i'r afael ag unrhyw gwynion sy'n cael eu derbyn yn unigol ac yn amserol.

3. Cynyddu lled carreg fedd o 610mm i 762mm.

4. Bydd y drefn ddarparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben.

5. Parhau â'r trefniant presennol o ran seddi coffa ac ni chaniateir meinciau coffa unigol pellach yn y mynwentydd. Gosod meinciau cymunedol fel dewis amgen gan ganiatáu i'r rheini sy'n gofyn am fainc goffa gael yr opsiwn o blac ar fainc gymunedol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

1. Mae'r amseroedd claddu newydd yn caniatáu digon o amser rhwng claddedigaethau, ac yn golygu nad oes angen i staff y fynwent weithio dros eu horiau contract. Mae hyn yn cynyddu morâl staff a bydd yn sicrhau bod staff yn gallu dilyn mesurau/darpariaethau iechyd a diogelwch gan y bydd ganddynt ddigon o amser i ddefnyddio cyfleusterau golchi ac ni fydd gofyn iddynt weithio mewn golau gwael.

 

2. Drwy gadw'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae, mae'r cyngor yn dal i ganiatáu mynediad i'w holl ddefnyddwyr ar sail 24/7. Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn mynd i'r afael â chwynion a throseddau diweddar fel arwyddion ychwanegol, ymylwaith ymylon (lle bo hynny'n briodol) a chamerâu teledu cylch cyfyng.

 

3. Er mwyn mwyafu'r lle claddu, cynigir peidio â darparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gastell-nedd Port Talbot. Mae hyn nid yn unig yn achosi problemau lle difrifol, mae hefyd yn fater iechyd a diogelwch gan y gall achosi problemau sefydlogrwydd rhwng waliau pridd beddau cyfagos.

 

4. Fel dewis arall yn lle mainc goffa unigol, gosodir meinciau cymunedol yn ein mynwentydd. Mae angen i'r cyngor flaenoriaethu lle ar gyfer beddau, ac mae mainc gymunedol yn ffordd o ddefnyddio tir nad yw'n addas ar gyfer claddedigaeth ac sy'n gallu ymgorffori 10 plac. Mae hyn yn caniatáu i'r cyngor adfer gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn gofyn amdano.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:


Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Gorffennaf 2022.