Ailddatganodd y Cynghorydd L Jones ei budd ar y
pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod.
Penodwyd y Cynghorydd P Rees yn Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith
Integredig, cymeradwyir y canlynol:
1.Cyflenwi pâr o byst gôl 24' x 8' newydd gyda rhwydi i Glwb Pêl-droed
Blaendulais Onllwyn. Gwerth y prosiect yw £3,080.00. Byddai'r Cynghorydd S Hunt yn cyfrannu £2,000
o'i ddyraniad o Gronfa Gymunedol yr Aelodau gyda'r £1,080 sy'n weddill yn cael
ei ariannu o gronfa ariannol wrth gefn y Clwb.
2.Prynu pyst goliau annibynnol 12' x 6' rhydd-sefyll, peli hyfforddi,
bagiau, bibiau, conau, citiau cymorth cyntaf a goliau codi'n gyflym ar gyfer
Adran Iau Clwb Pêl-droed Tonna. Byddai
cyfanswm y gost sef £1,511.98 yn cael ei ariannu drwy ddyraniad y Cynghorydd L
Jones o Gronfa Gymunedol yr Aelodau.
3. Prynu a gosod llwyfan symudol
gyda goleuadau, systemau Clyweledol a Sain yn y Brif Neuadd yn YGG
Pontardawe. Mae'r prosiect yn werth
£24,600. Byddai'r Cynghorydd L Purcell
yn cyfrannu £9,600 tuag at gostau'r prosiect o'i dyraniad hithau o Gronfa
Gymunedol yr Aelodau. Byddai'r £15,000
sy'n weddill yn cael ei ariannu'n gyfatebol o Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt
Mynydd y Betws a chyfraniadau gan y Gymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion a
chyllideb ddirprwyedig yr ysgol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Cytuno ar y ceisiadau am arian a dderbyniwyd dan
Gronfa Gymunedol yr Aelodau.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.