Yn dilyn diweddariad llafar a roddwyd yn y cyfarfod
a chyda chytundeb y Cadeirydd Craffu, cytunwyd y dylid gweithredu ar y
penderfyniad ar unwaith.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i ymatebion yr
ymgynghoriad, yr asesiad effaith integredig, yr asesiadau cydraddoldeb, risg a
defnydd cymunedol a'r wybodaeth y cyfeirir ati fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd a'r atodiadau cysylltiedig:
Penderfyniadau:
1.
Yn unol ag Adran 48 o Ddeddf
Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Rhoddir cymeradwyaeth i gyhoeddi'r hysbysiad statudol o'r cynnig i
sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg 3 – 11 oed gyda Chanolfan Cymorth Dysgu, mewn adeiladau
newydd i letya disgyblion o ddalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd yr Alltwen,
Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac Ysgol Gynradd Llangiwg, y bydd pob un ohonynt yn
cau ar 31 Awst 2024.
2.
Y dyddiad gweithredu fydd 1
Medi 2024.
3.
Bod yr Hysbysiad o'r cynnig yn
cael ei gyhoeddi ar 17 Mehefin 2021, gan ganiatáu 28 niwrnod ar gyfer cyflwyno
gwrthwynebiadau, a bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau yn dilyn
canlyniad y cyfnod hwn fel y gall Aelodau benderfynu arno'n derfynol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion
cyhoeddi ffurfiol y Côd Trefniadaeth Ysgolion a deddfwriaeth gysylltiedig. Hysbysiad statudol drafft, sydd ynghlwm wrth
Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau
addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei
ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar
unwaith fel y cytunwyd gyda'r Cadeirydd Craffu perthnasol (ac felly nid yw'n
destun y weithdrefn galw i mewn).